Newyddion S4C

Yr ymgyrchu yn dechrau ar gyfer yr etholiad cyffredinol

24/05/2024

Yr ymgyrchu yn dechrau ar gyfer yr etholiad cyffredinol

"We will have a general election on 4 July."

Mae'r gwn 'di tanio a'r ras i Rif 10 Downing Street wedi dechrau. Heddiw, roedd y prif bleidiau yn gosod eu stondin i etholwyr.

O warws yn Swydd Derby. "The plan is working and we have that economic stability back."

I gae pel-droed yng Nghaint. "End the chaos, turn the page and rebuild Britain."

Stryd fawr Caerfyrddin. "Dim ond llais cryf i Blaid Cymru fyddai'n gwneud yn siwr nad ydyn ni'n cael ein hanwybyddu."

A pharc yn Cheltenham. "It's a vote for the Liberal Democrats that will get rid of the Conservative MP."

Mewn bragdy yn y Barri heddiw roedd Rishi Sunak. A bagliad cynta'r ymgyrch yn dod yn gynnar. "Are you looking forward to all the football?" Dyw Cymru, wrth gwrs, heb gyrraedd yr Ewros.

"That's because you guys aren't in it!" Daeth ail faux pas, a chogydd o'dd drws nesaf i Rishi Sunak heddiw yn wneud hi'n amlwg nad oedd y Prif Weinidog am gael ei bleidlais.

Er gwaetha'r chwerthin ym Mro Morgannwg heddiw mae sïon bod sawl aelod Ceidwadol yn anhapus 'da Rishi Sunak am alw etholiad cynnar.

"Dyw prif weinidogion ddim yn rhoi rhybudd i bawb. Chi ddim yn gallu rhoi rhybudd i ychydig o aelodau'r Senedd neu bydd pawb yn gwybod mewn munudau yn y byd gwleidyddiaeth.

"Fi wedi dweud ers misoedd bod fi'n barod am yr etholiad pryd bynnag mae'n dod."

Ond dyw pawb ddim yn cytuno. A'r aelod seneddol Cymreig yma yn un sydd wedi'i synnu.

"We thought out loud, autumn. The Chancellor did one interview mentioning an October date. A lot of thinking we have to get done in a couple of hours and a lot of the decision making we subconsciously put off until the summer period."

Y neges swyddogol yw eu bod nhw'n barod am y frwydr. Mae ymgeisydd arall yn cyfaddef ei fod e'n rhwystredig 'da'r amseru.

"Fi bach yn siomedig achos mae llefydd fel Cymru mor wledig. Mae angen lot o amser i bobl fynd mas ac ymgyrchu dros Gymru. Mae chwech wythnos ddim yn teimlo fel digon ar y funud."

Barn gymysg sydd felly yn y rhengoedd Ceidwadol. Ond gyda'r polau piniwn yn rhoi Llafur yn bell ar y blaen yn ôl un sydd wedi gweithio i Brif Weinidog Ceidwadol nid yw'r penderfyniad i alw etholiad cynharach na'r disgwyl o anghenraid yn beth gwael.

"Mae'n osgoi'r perygl o edrych yn yr hir dymor fel rhywun o'dd yn gwersylla yn Rhif 10 yn gyndyn i adael, bod e ofn colli ac mae'n mynd i fod yn frwydr fawr.

"Y tebygrwydd yw y bydd e mas ar 5 Gorffennaf, ond mae popeth yn bosibl mewn etholiad."

Ydy, mae popeth yn bosib mewn etholiad. A marathon yr ymgyrchu, heddiw, megis dechrau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.