Newyddion S4C

Mallorca: Pedwar wedi marw a nifer wedi eu hanafu ar ôl i adeilad ddymchwel

24/05/2024
Mallorca

Mae pedwar o bobl wedi marw ag 16 wedi eu hanafu wedi i glwb deulawr ar draeth poblogaidd yn Palma, Mallorca, ddymchwel yn sydyn.

Digwyddodd y trychineb am tua 20:30 nos Iau.

Yn ôl yr awdurdodau lleol fe allai rhagor o bobl fod yn sownd yng ngweddillion yr adeilad.

Mewn cyhoeddiad yn dilyn y digwyddiad, dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys lleol: “Rydym wedi ymateb i ddigwyddiad brys o ganlyniad i gwymp nenfwd adeilad deulawr yn Avenida Cartago yn Playa de Palma, lle mae pobl yn gaeth. 

"Mae diffoddwyr tân a heddlu lleol yn y lleoliad."

Palma yw prif ddinas yr ynys ac mae'r traeth yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol.

Yn ôl adroddiadau fe ddioddefodd saith o bobl anafiadau difrifol iawn, gyda naw arall yn dioddef anafiadau difrifol.

Mae'r gwasanaethau brys yn parhau ar safle'r Medusa Beach Club fore dydd Gwener.

Mae Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sánchez, wedi anfon ei gydymdeimladau at deuluoedd y dioddefwyr.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn Palma, ac ar hyn o bryd nid oes adroddiadau bod dinasyddion Prydeinig wedi bod yn gysylltiedig gyda'r digwyddiad. 

"Rydym yn parhau mewn cysylltiad ag awdurdodau Sbaen."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.