Newyddion S4C

Safle'r Wylfa ar Ynys Môn yw'r dewis cyntaf ar gyfer gorsaf niwclear newydd

23/05/2024

Safle'r Wylfa ar Ynys Môn yw'r dewis cyntaf ar gyfer gorsaf niwclear newydd

Yr addewid mawr.

Mae ail orsaf Wylfa wedi bod yn fwy o chwedl na dim arall hyd yma. Heddiw, mae Llywodraeth Prydain yn ceisio eto i'w wneud yn realiti trwy gyhoeddi mae fan'ma sy'n cael ei ffafrio ar gyfer gorsaf niwclear fawr newydd.

Roedd yr hen orsaf yn cynhyrchu 1GW o drydan. Byddai unrhyw orsaf newydd yma gryn dipyn yn fwy wrth i'r Llywodraeth geisio sicrhau bod 25GW yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau niwclear ym Mhrydain erbyn 2050.

Digon i bweri chwe miliwn o gartrefi. Ond ai gofal pia hi wrth glywed y cyhoeddiad ar yr ynys?

"Beth sydd ar goll ydy llais canolog Ynys Môn. Be sy'n bwysig i Ynys Môn a'r heriau ni'n wynebu. Hefyd, amserlen. Mae pobl yn meddwl mae Wylfa'n dod ond lasa hwn beidio a'n cyrraedd am chwarter canrif o ran cynhyrchu swyddi o ddydd i ddydd yn cynhyrchu trydan.

"Mae isio bod yn ofalus ac yn onest efo'r cyhoedd."

"The key thing is we're actually starting now. In terms of the UK Government, it will be working with the industry to work out what sort of process that we do. Whether we do a competition or whether we do procurement."

"Rhaid sicrhau bod ni'n dallt yn union sut effaith mae'n cael er mwyn gwarchod ein cymunedau a sicrhau bod y swyddi sy'n cael eu creu yn ystod yr adeiladu a rhedeg yr atomfa, bod pobl lleol sy'n cael y swyddi."

Agorodd atomfa Wylfa yn 1971. Ar ôl pryderon am ddyfodol y safle yn 2009 roedd diddordeb gan gwmni Horizon. Cafodd ei brynu'n ddiweddarach gan Hitachi. Nid dyma'r tro cyntaf i ni weld addewid am filoedd o swyddi.

Yn 2015, wrth i'r safle rhoi'r gorau i gynhyrchu ynni roedd Horizon yn bwriadu cyflogi 9,000 i adeiladu Wylfa newydd. Y bwriad oedd dechrau cynhyrchu ynni o fewn deng mlynedd.

Ond siom oedd i ddod. Ar ôl atal y gwaith ar y safle yn 2019 flwyddyn yn ddiweddarach, daeth cynlluniau Hitachi i ben yn llwyr oherwydd pryderon am bres. Eleni, prynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y safle gan Hitachi.

Heddiw, addewid arall o filoedd o swyddi a chynllun i ddechrau cynhyrchu ynni eto erbyn 2050. Un peth ydy cyhoeddi mae Wylfa ydy'r safle sy'n cael ei ffafrio... ar gyfer atomfa newydd ond peth arall ydy denu'r cwmniau i ddatblygu'r orsaf.

Mae popeth yn digwydd ar raddfa fawr yn y diwydiant niwclear ond wnaeth Hitachi wario £2 biliwn ar eu cynlluniau nhw. Ers hynny, mae rhagor o ergydion economaidd wedi bod i'r ynys, yn enwedig yn Llangefni.

"'Dan ni angen o i gael y gwaith. Mae'r wlad eisiau trydan anyway."

"Dw i ddim yn meddwl bod o'n idea da."

Pam?

"Beth os yw o'n chwythu i fyny?"

"Mae eisiau gwaith i bawb yn Sir Fon."

"Os geith pobl lleol gwaith efallai Saeson o du allan fydd yn dod i weithio yna!"

Doedd y cyhoeddiad heddiw ddim yn syndod i'r rhai sydd yn erbyn ynni niwclear.

"O ran newid hinsawdd a'r peryglon, does 'na ddim dadl. Ynni adnewyddol ydy'r ffordd ymlaen. Does dim lle i niwclear. 'Dan ni ddim angen o am anghenion trydan y dyfodol.

"Rŵan 'dan ni angen gwaith. Nid mewn 10, 15 neu 20 mlynedd. Rŵan mae'r hogiau'n gadael."

Methiant i gytuno ar delerau ariannol efo'r llywodraeth oedd wrth wraidd penderfyniad Hitachi i roi'r gorau iddi. Mae Llywodraeth Prydain yn gobeithio bod eu polisi niwclear newydd yn fwy atyniadol i fuddsoddwyr.

"Mae dal angen swyddi yn yr ardal. Mae gan bobl yr ardal brofiad o'r gwaith. Ni wedi gweld Hitachi yn methu. Gawn ni weld os fydd popeth yn mynd ymlaen."

Cyhoeddiad mawr am ddatblygiad mawr posib. Mae pobl Ynys Môn wedi bod yn fan'ma o'r blaen. Nifer yn deall bod y pendraw ymhell tu hwnt i'r gorwel.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.