Newyddion S4C

Rishi Sunak yn galw etholiad cyffredinol ar gyfer mis Gorffennaf

23/05/2024

Rishi Sunak yn galw etholiad cyffredinol ar gyfer mis Gorffennaf

Ychydig wedi pump y prynhawn - Rishi Sunak yn cerdded allan o Rif 10 i roi taw ar y dyfalu.

Yng nghanol cawod Mai, fe gyhoeddodd y bydd etholiad yng Ngorffennaf.

"Now is the moment for Britain to choose its future. To decide whether we want to build on the progress we have made or go back to square one with no plan and no certainty.

"Earlier, I spoke with His Majesty the King to request the dissolution of Parliament. The King has granted this request .and we will have a general election on 4 July."

Ar ôl galw'n gyson am etholiad roedd Llafur yn addo gweledigaeth newydd.

"A vote for Labour is a vote for stability - economic and political. A politics that treads more lightly on all our lives. A vote to stop the chaos."

Bydd Cymru'n ethol 32 o aelodau seneddol, llai y tro hwn oherwydd bod na etholaethau newydd. Ond mae'r gwleidyddion yn barod am y frwydr.

"Mae Plaid Cymru wedi galw ers talwm iawn am etholiad gyffredinol. Mae'n hen bryd i deyrnasiad y Ceidwadwyr ddod i ben. Ein neges ydy dydy Llafur ddim yn cynnig yr atebion i Gymru.

"Ni angen i lais Cymru gael ei glywed pwy bynnag sydd yn Rhif 10. A'n gwaith dros yr wythnosau nesaf fydd adeiladu ymddiriedaeth yna er mwyn sicrhau llais Plaid Cymru cryf."

"Mae pobl Cymru wedi bod yn aros am amser hir am newid a dyma'r cyfle i newid gwleidyddiaeth yng Nghymru. Ni'n gobeithio bydd e'n newid yn San Steffan.

"Rhaid i ni gael gwared o'r Ceidwadwyr yn San Steffan."

Ond barn y bobl fydd bwysica yn y pen draw a barn pob un ohonom fydd yn pleidleisio. Fe fuon ni'n gofyn heddiw, ydy hi'n bryd cael etholiad?

"Dw i'n credu bod e gyda popeth sy'n digwydd y dyddiau hyn. Mae'n bryd cael newid."

Beth chi'n meddwl?

"Dw i'n cytuno'n llwyr ond pwy sy'n mynd i fod yn eu lle nhw?"

"Mae'n amser i hyn yn enwedig yn yr amodau nawr a'r ffordd mae Sunak yn rhedeg y wlad."

"Yeah, probably."

Mae 'na bedair blynedd a hanner ers yr etholiad cyffredinol diwethaf. Mae llawer wedi newid ers hynny. Brexit, pandemig, a phwy sy'n Brif Weinidog.

Dywedodd Mr Sunak y bydd 'na etholiad yn ail hanner y flwyddyn. Efallai'n gynt na'r disgwyl, ni'n gwybod mai'r 4ydd Gorffennaf fydd y diwrnod mawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.