Newyddion S4C

Dynes wedi syrthio 40 troedfedd oddi ar glogwyn yn Abersoch

23/05/2024
Menyw wedi cwympo oddi ar glogwyn

Cafodd dynes ei hachub gan griwiau bad achub yn Abersoch nos Sul wedi iddi syrthio 40 troedfedd oddi ar glogwyn. 

Roedd y dynes wedi syrthio oddi ar glogwyn Trwyn Llech-y-Doll, ger Cilian Uchaf, a 'r gred yw ei bod wedi dioddef anaf i’w phen ac wedi torri ei choes. 

Cafodd criw bad achub Abersoch wybod am y digwyddiad tua 21.55 nos Sul, gan gyrraedd y fan a’r lle am 22.19, wedi i’w chyfaill gysylltu â’r gwasanaethau brys. 

Mi oedd ei chyfaill wedi dringo i lawr at y fenyw wedi iddi syrthio, cyn dringo yn ôl i fyny er mwyn medru dod o hyd i signal ffon er mwyn cysylltu â’r gwasanaethau brys. 

Dywedodd Andy Gunby, o dîm RNLI Abersoch: “Roedd yr ymdrech achub yma’n anodd gyda nifer o asiantaethau’n cydweithio er mwyn achub y fenyw o ardal beryglus. 

“Mi oedd hi wedi cwympo oddeutu 40 troedfedd ond roedd hi’n gwisgo offer diogelwch – ac roedd hyn bendant wedi achub ei bywyd,” meddai. 

Roedd sawl tîm yn rhan o’r ymdrechion achub, ac fe gafodd hofrennydd eu galw’n fuan wedi i’r criw bad achub cyrraedd safle’r digwyddiad er mwyn gallu helpu achub y dynes.

Nid oedd modd defnyddio winsh i ganiatáu i'r criw’r achub y fenyw tra oedden nhw’n parhau ar yr hofrennydd gan fod yna beryg o greigiau’n cwympo. 

Roedd rhaid i’r hofrennydd lanio ar Borth Ceiriaid ac fe gafodd y fenyw ei chludo yno gan gwch y bad achub, cyn iddi gael ei chludo yn yr hofrennydd i Ysbyty Gwynedd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.