Newyddion S4C

Angen gwybod mwy am yr etholiad cyffredinol?

23/05/2024
Etholiad 2024

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf. 

Mae etholiad ym mis Gorffennaf yn gynharach na'r disgwyl, gyda nifer yn credu y byddai'n cael ei gynnal yn yr hydref. 

Dyma ateb ychydig o'r cwestiynau sydd wrth wraidd yr etholiad. 

Beth ydy etholiad cyffredinol a faint o Aelodau Seneddol sydd yna?

Pwrpas etholiad cyffredinol ydi ethol Aelodau ar gyfer Senedd y Tŷ Cyffredin. 

Mae'r Deyrnas Unedig wedi cael ei rhannu yn 650 o ardaloedd, sy'n cael eu hadnabod fel etholaethau, ac mae pob un o'r rhain yn dewis un AS i gynrychioli trigolion lleol. 

Mae'r mwyafrif o ymgeiswyr yn cynrychioli plaid wleidyddol, ond mae yna rai sy'n sefyll fel aelodau annibynnol. 

Sut mae pleidleisio yn gweithio?

Mewn etholiad cyffredinol, mae gan bob person un bleidlais. 

Ar ddiwrnod yr etholiad, fe fydd pob pleidleisiwr sydd wedi cofrestru yn pleidleisio am ymgeisydd yn eu gorsaf bleidleisio leol. Mae rhai pobl yn pleidleisio o flaen llaw drwy wneud pleidlais drwy'r post. 

Fe fydd yr ymgeisydd sy'n sicrhau y mwyaf o bleidleisiau yn cael ei ethol yn AS ar gyfer yr ardal honno, mae'r dull yma o bleidleisio yn cael ei adnabod fel dull 'cyntaf heibio'r postyn'(first past the post).

Beth sy'n digwydd ar ôl i ganlyniadau'r etholiad gael eu cyhoeddi?

Ar ôl i'r pleidleisiau gael eu cyfrif, fe fydd y Brenin yn gofyn i arweinydd y blaid gyda'r mwyaf o ASau i ddod yn brif weinidog nesaf a ffurfio llywodraeth. 

Fe fydd arweinydd y blaid gyda'r ail nifer mwyaf o ASau yn dod yn arweinydd yr wrthblaid.

Os nad oes plaid yn sicrhau mwyafrif o ASau, y canlyniad ydy 'Senedd grog'.

Ar y pwynt yma, mae posibilrwydd i'r blaid fwyaf ffurfio llywodraeth glymblaid gyda phlaid arall neu benderfynu gweithredu fel llywodraeth leiafrifol, a fyddai'n golygu gorfod dibynnu ar bleidleisiau gan bleidiau eraill er mwyn pasio unrhyw ddeddfau. 

Pwy sy'n cael pleidleisio a faint oed sydd angen i chi fod?

Gall unrhyw un ar y gofrestr etholiadol sydd yn 18 neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad bleidleisio cyn belled â'u bod yn ddinesydd Prydeinig, neu'n ddinesydd y Gymanwlad neu yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon gyda chyfeiriad yn y DU. 

Gall pob dinesydd DU sy'n byw dramor gofrestru i bleidleisio yn yr etholaeth lle'r oedden nhw ar y gofrestr etholiadol o'r blaen, cyn belled nad ydynt wedi cael eu gwahardd yn gyfreithiol rhag pleidleisio.

Sut mae modd pleidleisio os nad ydw i ar gael ar ddiwrnod yr etholiad?

Os ydych chi'n gwybod na fyddwch chi'n bresennol yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, ac eich bod chi eisoes wedi cofrestru, mae modd gwneud cais am bleidlais drwy'r post. 

Bydd angen sicrhau bod eich pleidlais wedi cyrraedd y tîm etholiadol yn eich cyngor lleol erbyn 22:00 ar ddiwrnod yr etholiad er mwyn i'r bleidlais gyfri. 

Mae modd hefyd enwebu pleidlais drwy ddirprwy ar eich rhan. Mae angen i chi a'r dirprwy fod wedi cofrestru i bleidleisio. 

Mae'r rheolau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy wedi newid. Os ydych chi wedi ymgeisio am bleidlais drwy ddirprwy cyn 31 Hydref 2023, fe ddaeth hwn i ben ar 31 Ionawr 2024 ac felly bydd angen gwneud cais eto. 

A fydd angen cerdyn adnabod er mwyn pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol?

Bydd yn rhaid i'r holl bleidleiswyr sydd yn bwriadu pleidleisio ddangos cerdyn gyda llun i'w hadnabod yn yr orsaf bleidleisio.

Nid yw pob math o lun yn dderbyniol, ond mae pasbort, trwydded yrru a phasys bws person hŷn neu fathodyn glas anabl i gyd yn gymwys. 

Beth sy'n digwydd i'r Senedd ac i ASau cyn yr etholiad?

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi gofyn i'r Brenin yn ffurfiol i ddiddymu'r Senedd, ac fe fydd hyn yn digwydd ar 30 Mai. 

Mae ASau yn colli eu statws ac fe fydd yn rhaid iddynt ymgyrchu i gael eu hail-ethol os ydynt yn dymuno parhau. 

Pa mor aml y mae etholiadau cyffredinol yn cael eu cynnal?

Mae etholiadau cyffredinol yn cael eu cynnal fel arfer bob pum mlynedd. 

Ond gall y prif weinidog alw etholiad ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod pum mlynedd. 

Daeth Mr Sunak yn brif weinidog ar 25 Hydref 2022 pan y gwnaeth olynu Liz Truss, a gymerodd yr awennau gan Boris Johnson.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.