Newyddion S4C

'Un o brofiadau gwaethaf fy mywyd’: Cwynion am ‘broblemau difrifol’ gwaith cwmni gwresogi cenedlaethol

23/05/2024

'Un o brofiadau gwaethaf fy mywyd’: Cwynion am ‘broblemau difrifol’ gwaith cwmni gwresogi cenedlaethol

Dyma'r olygfa yn nhŷ Sarah Bailey ym Mhowys wedi'i gwmni Consumer Energy Solutions weithio yno.

Ar ôl llawdriniaeth a dioddef gyda sepsis roedd rhaid iddi gadw clwyf yn lan.

Oherwydd gwaith diffygiol y cwmni, doedd hynny'n methu digwydd.

"We were told initially the work would take four weeks.

"16 or 17 weeks later we're still having problems with work being put right.

"It's been very stressful.

"It's affected my health.

"It's been a nightmare."

Yn Llangwnadl, Gwynedd roedd Beverly Scott yn cysgu o flaen tan y lolfa am fis y llynedd.

Mae'n byw gyda chanser a dim modd gwella o'r cyflwr ond mae'n dweud bod gwaith gwallus y cwmni 'di golygu bod dim gwres na dŵr twym yn ei chartref am wythnosau.

"We had to struggle to get the beds in the lounge and live in the lounge all the time.

"None of this was pre-warned that this is how we'd be living."

Yn San Steffan heddiw, wnaeth ei haelod seneddol godi'i hachos.

Bu'n rhaid iddi fynd i'r llys i hawlio iawndal gan y cwmni sydd wedi'i gymeradwyo gan sawl cyngor i wneud gwaith o dan gynllun
Llywodraeth San Steffan i greu cartrefi mwy gwyrdd.

Yn ôl y Llywodraeth, maen nhw 'di cyflwyno camau i sicrhau gwaith o safon dan y cynllun.

"One of the things we're determined to do is make sure that those installations are carried out correctly.

"We have new regulations to ensure that that happens going forward."

"Dw i'n meddwl mae'r ffaith bod y cynllun wedi anelu at bobl fregus o ran iechyd neu iechyd meddwl mae angen eu hamddiffyn nhw'n well.

"Ddylen nhw ddim gorfod mynd i'r llys i gael cyfiawnder."

Dywedodd Consumer Energy Solutions ei bod nhw'n siomedig i glywed am unrhyw gwsmer sy'n anfodlon gyda'i gwaith.

Maen nhw'n gweud bod ganddyn nhw filoedd o gwsmeriaid hapus a sgor o 4.5/5 ar wefan TrustPilot.

Do'n nhw ddim am drafod achosion unigol.

Mae'r cwsmeriaid anfodlon sydd 'di siarad â Newyddion S4C yn gobeithio na fydd mwy o bobl yn wynebu'r un trafferthion â nhw.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.