Menyw yn dioddef anafiadau sy’n peryglu ei bywyd mewn tân
23/05/2024
Llun gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Mae menyw 68 oed wedi ei chludo i’r ysbyty ar ôl dioddef anafiadau sy’n peryglu ei bywyd mewn tân yn Abertawe.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi eu galw i’r tân ar Ffordd Pen-y-Cae yng Nghasllwchwr, Abertawe bore ddydd Iau.
Cafodd y fenyw 68 oed ei chludo i’r ysbyty ac fe gafodd tri pherson arall eu trin am anadlu mwg.
Roedd Ffordd Pen-y-Cae yn parhau ar gau adeg datganiad yr heddlu am 11.00 ddydd Iau.