Rhybuddion llifogydd mewn grym yn y gogledd wedi glaw trwm
Mae nifer o rybuddion llifogydd mewn grym yn y gogledd wedi cyfnod o law trwm yn ystod y 24 awr ddiwethaf.
Mae'r rhybuddion oren 'llifogydd yn bosib - byddwch yn barod' mewn grym ar gyfer yr Afon Alun yn Yr Wyddgrug, ardaloedd Glaslyn a Dwyryd, yr Afon Alun yn yr Orsedd Goch, dalgylch Elwy a'r Gele, a dalgylch yr Alun.
Daw hyn wedi i rybuddion oren a melyn am law trwm gael eu cyhoeddi ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru ddydd Mercher - gyda'r rhybudd oren yn berthnasol i'r gogledd.
Fe ddaeth y rhybudd oren i rym am 12:00 ddydd Mercher ac fe fydd yn dod i ben am 12:00 ddydd Iau.
Dywed y Swyddfa Dywydd bod disgwyl i'r tywydd gwlyb barhau dros y dyddiau nesaf, yn enwedig yn y gogledd ddydd Gwener.
Mae disgwyl cyfnodau sychach yn y de a'r dwyrain yn ystod y dydd, ac fe fydd y tywydd yn brafiach ddydd Sadwrn, gyda'r tymheredd yn codi rhywfaint hefyd.
Ond mae disgwyl i'r glaw ddychwelyd dydd Llun gyda chawodydd cyson i lawer.
Yn y cyfamser mae miloedd o deithwyr ar drenau wedi dioddef aflonyddwch wrth i gledrau rheilffordd rhwng Lloegr a’r Alban fod ar gau oherwydd llifogydd fore dydd Iau.
Dywedodd National Rail fod prif lwybr Arfordir y Gorllewin rhwng Carlisle a Lockerbie wedi ei rwystro.
Mae cwmnïau Avanti West Coast, TransPennine Express, ScotRail a Caledonian Sleeper wedi eu heffeithio.
Mae disgwyl tarfu sylweddol ar y gwasanaeth am weddill dydd Iau.