Pryder am brinder meddygon teulu

Pryder am brinder meddygon teulu
Mae cymdeithas feddygol BMA Cymru yn ofni y bydd nifer o feddygon teulu yn gadael y proffesiwn dros y flwyddyn nesaf ac wedi galw am strategaeth i fynd i'r afael â’r broblem.
Er bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog ers dechrau’r pandemig mae'r gymdeithas yn rhybuddio bod Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar y pwysau ar feddygon teulu.
Mae arolwg diweddar ganddynt yn awgrymu bod 30% o feddygon teulu Cymru yn ystyried ymddeol yn gynnar neu leihau eu horiau gwaith, a bod 44% yn bwriadu gwneud hynny o fewn y flwyddyn nesaf.
Mae’r gymdeithas hefyd yn galw am wneud mwy i berswadio disgyblion o rannau gwledig o Gymru i astudio meddygaeth, ac yn credu dylid ymchwilio i’r rhesymau pam bod cynifer o raddedigion meddygaeth yn gadael Cymru.
'Stryglo i gael meddygon teulu'
Mae Shannon Rowlands sydd yn ei thrydedd flwyddyn ar gwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Abertwae yn enghraifft prin sy'n dod yn wreiddiol o gefn gwlad ac yn gobeithio mynd nôl yno i weithio.
Ei gobaith yw y bydd rhagor o ddisgyblion o gefn gwlad Cymru'n dilyn ei thrywydd hi.
"Fi 'di clywed lot bod pobl yn 'stryglo' i gael meddygon teulu, yn enwedig nôl yn ardaloedd gwledig gorllewin Cymru.
"Ni'n clywed amdano fe'n aml ac amser o'n i'n yr ysgol dim ond fi nath ymgeisio i astudio meddygaeth.
"Fi'n meddwl bydde fe'n werthfawr i gael mwy o help yn yr ysgolion, help gyda'r broses o ymgeisio.
“Ma’ fe'n hollol wahanol mae rhaid i chi iste arholiadau i fynd i'r brifysgol i astudio meddygaeth.
“Un o'r manteision o weithio mewn meddygfa teulu yw eich bod chi'n gallu gweithio unrhyw le.
“Felly fedrwch chi ddod nôl adre i'r ardal cawsoch eich magu.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.