Etholiad 2024: Yr etholaethau Cymreig fydd yn hanfodol i'r pleidiau eu hennill
Wedi i Rishi Sunak gyhoeddi ddydd Mercher fod etholiad cyffredinol ar y gweill ddechrau Gorffennaf, pa etholaethau fydd y pleidiau'n awchu i'w cipio neu eu cadw ar ddydd y bleidlais fawr?
Dyma fydd yr Etholiad Cyffredinol cyntaf ers i nifer etholaethau Cymru gael eu cwtogi o 40 i 32, ac fe allai'r newid ffiniau olygu newid mewn aelodau seneddol hefyd.
Fe allai Prestatyn fod yn dref sydd yn adlewyrchiad o'r darlun yn genedlaethol - mae hi'n symud o fod yn etholaeth Dyffryn Clwyd i Ddwyrain Clwyd ac yn dir ffrwythlon i'r Ceidwadwyr a Llafur.
Fe allai 'Wal Las" y gogledd ddwyrain droi'n ôl i fod yn 'Wal Goch' unwaith eto, ac i'r gorllewin ar hyd yr arfordir fe fydd llawer yn gwylio'n ofalus ar etholaeth Ynys Môn.
Yno fe fydd tri cheffyl blaen yn y ras i sicrhau lle yn San Steffan - mae'r sedd yn nwylo'r Ceidwadwyr ar hyn o bryd ond fe fydd Plaid Cymru a'r Blaid Lafur ill dwy yn obeithiol am fuddugoliaeth yno.
Ymgyrchu
Wrth dro i edrych tua'r de orllewin, mae'r frwydr yng Nghaerfyrddin yn un ddiddorol - rhwng y Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru - ond fe allai pedwerydd ceffyl fod yn y ras hon os bydd cyn-AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards, yn dewis rhoi ei enw yn yr het.
Yn y de ddwyrain mae'r polau piniwn yn awgrymu y gallai Mynwy fod yn frwydr ddiddorol. Mae AS presenol yr etholaeth, David TC Davies, yng nghabinet Rishi Sunak fel Ysgrifennydd Cymru.
Gall ei sedd fod dan fygythiad gan y Blaid Lafur.
Ardaloedd eraill sydd yn symud o un etholaeth i etholaeth newydd yw Cil-y-coed a Magwyr - o Dwyrain Casnewydd i Sir Fynwy.
Fe fydd hen ddyfalu dros y chwe wythnos nesaf am effaith y newid ffiniau newydd ar Gymru - ac fe fydd y pleidiau i gyd yn awchu i ddechrau ymgyrchu gyda chymaint yn y fantol.