Newyddion S4C

Blog byw: Yr ymateb wrth i Rishi Sunak alw Etholiad Cyffredinol

22/05/2024
Rishi Sunak

Dyma'r ymateb o Gymru a thu hwnt wrth i'r Prif Weinidog Rishi Sunak gyhoeddi y bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf.

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, 4 Gorffennaf

Crynodeb

  • 16:17

    Rishi Sunak yn cyhoeddi Etholiad Cyffredinol

  • 15:50

    Mae disgwyl i Rishi Sunak gyhoeddi y bydd etholiad yn yr haf

19:08

Crynodeb

Dyna gau pen y mwdwl ar y blog byw am y tro.

Dyma grynodeb o ddigwyddiadau'r dydd:

  • Mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi Etholiad Cyffredinol ar gyfer 4 Gorffennaf gan ddweud bod "sefydlogrwydd economaidd" ar y ffordd i'r DU.
  • Ond dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer: "Rhowch bum mlynedd arall i’r Torïaid a bydd pethau ond yn gwaethygu."
  • Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi dweud eu bod nhw'n "barod i fynd â’r frwydr hon i bleidiau Llundain".
  • Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo "pencampwr lleol cryf" i'r rheini sy'n pleidleisio drostyn nhw.
  • Roedd amseru'r etholiad yn "syrpreis" meddai cyn-bennaeth cyfathrebu Boris Johnson, Guto Harri wrth Newyddion S4C.
  • Tra bod Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C ei fod yn edrych ymlaen at her Etholiad Cyffredinol.

 

 

18:50

Ysgrifennydd Cymru yn 'edrych ymlaen'

Mae Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth Geidwadol y DU, David TC Davies, wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C ei fod yn edrych ymlaen at her yr Etholiad Cyffredinol.

Bydd yn gyfle i gyfosod record Llywodraeth Lafur Cymru gyda record ei lywodraeth ef, meddai.

18:16

ASau Cymreig sy'n ffarwelio

Image
Hywel Williams
Hywel Williams AS, sy'n camu o'r neilltu

Beth bynnag sy'n digwydd yn yr Etholiad Cyffredinol fe fyddwn yn ffarwelio gyda rhai o ASau Cymru.

Mae'r canlynol wedi penderfynu camu o'r neilltu adeg yr etholiad nesaf:

  • Wayne David, AS Llafur Caerffili ers 2001
  • Hywel Williams, AS Plaid Cymru dros Arfon ers 2001
  • David Jones, AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd ers 2005
  • Jamie Wallis, AS Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr ers 2019
  • Christina Rees, AS Llafur Castell-nedd ers 2015

18:05

Guto Harri: Etholiad Cyffredinol yn 'syrpreis'

Mae cyn-bennaeth cyfathrebu Boris Johnson, Guto Harri sy'n ymateb i'r cyhoeddiad gan Rishi Sunak y bydd Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf.

"Doedd dim lot o driciau ar ôl ar gael i Rishi Sunak, a rhoi syrpreis i ni oedd un o'r rheini, a'r rhan fwyaf ohonon ni wedi cael syrpreis heddi..

"Mae'n mynd am etholiad ym mis Gorffennaf pan mae'n gynnes.

"Hen bobl yn fwy tebygol o fynd allan i bleidleisio.

"Heb bobl yn fwy tebygolo bleidleisio dros y Ceidwadwyr.

"A hefyd dwi'n credu yn y pen draw teimlo fod newyddion economaidd cystal a fydd yna wedi dod yr wythnos hon.

"Ag yr hiraf fydd e'n aros y mwyaf peryglus fydd e.

"Felly mae'r gwn wedi ei danio."

 

17:19

Beth fydd y canlyniad yng Nghymru?

Mae yna 43 diwrnod nes yr Etholiad Cyffredinol a gall llawer newid yn y cyfamser.

Ar hyn o bryd mae'r Blaid Lafur yn weddol gyfforddus ar y blaen yn y polau piniwn ond bydd y Ceidwadwyr yn gobeithio cau'r bwlch.

Mae ymgynghorwyr materion cyfoes Deryn wedi creu map yn awgrymu beth fyddai y canlyniad pe bai polau diweddaraf Survation a YouGov yn gywir, a fyddai yn dro ar fyd ar 2019 pan oedd y Ceidwadwyr wedi cipio nifer o seddi gan gynnwys Pen y Bont ar Ogwr a rhai ar hyd arfordir gogledd Cymru.

17:05

Ymateb y Teulu Brenhinol

Image
Y Brenin Charles III
Y Brenin Charles III

Mae'r Teulu Brenhinol wedi dweud y byddant yn gohirio eu trefniadau am yr wythnosau i ddod yn dilyn cyhoeddiad Rishi Sunak am yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham: "Yn dilyn datganiad y Prif Weinidog y prynhawn yma yn galw Etholiad Cyffredinol, bydd y teulu brenhinol, yn unol â'r drefn arferol, yn gohirio ymrwymiadau a allai ymddangos fel pe baent yn dargyfeirio sylw neu'n tynnu sylw oddi wrth yr ymgyrch etholiadol.

"Mae Eu Mawrhydi yn anfon eu hymddiheuriadau diffuant at unrhyw un o'r rhai a allai gael eu heffeithio o ganlyniad."

17:01

Ymateb arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

Image
Andrew RT Davies
Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae Keir Starmer wedi dweud mai Cymru ydy ei seilwaith ar gyfer y llywodraeth, a thra bod y Ceidwadwyr yn darparu ar gyfer Cymru, mae record Llafur yng Nghymru yn rybudd clir i weddill y Deyrnas Unedig.

"Diolch i'r blaid Lafur, mae gan Gymru'r rhestr aros GIG waethaf yn y DU, y diweithdra isaf yn y DU, a'r safonau addysgol gwaethaf yn y DU. 

"Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn anfon neges glir i'r wlad fod ein cynllun economaidd yn gweithio, a gan na allwn ni ymddiried yn y blaid Lafur i redeg Cymru, ni allwn ni ymddiried ynddyn nhw i redeg gweddill y DU."

16:53

Pa etholaethau fydd yn y fantol yng Nghymru?

Image
Gorsaf bleidleisio

Bydd nifer y seddi yng Nghymru yn cael eu cwtogi o 40 i 32 ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.

Bydd hynny’n golygu bod pob etholaeth yng Nghymru ond Ynys Môn wedi cael ffiniau newydd.

Dyma grynodeb o'r seddi y mae'r pleidiau gwahanol yn debygol o'u targedu dros y misoedd nesaf.

16:48

Ymateb Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething

Image
Vaughan Gething
Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Llafur Cymru:

“Mae Rishi Sunak o’r diwedd wedi dod i’r un casgliad â gweddill y wlad: mae angen Etholiad Cyffredinol nawr.

“Mae pobol ar draws Cymru yn galw am newid llywodraeth, diwedd ar anhrefn Torïaidd a dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio - i Gymru a Phrydain.”

16:47

Ymateb arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol

Image
Ed Davey
Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol

Wrth ymateb dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey: “Mae’r Etholiad Cyffredinol yn gyfle i gicio Llywodraeth Geidwadol echrydus Rishi Sunak allan a chyflawni’r newid y mae’r cyhoedd yn galw amdano.

“Ers blynyddoedd mae’r Blaid Geidwadol wedi cymryd pleidleiswyr yn ganiataol ac wedi llusgo o argyfwng i argyfwng tra bod y problemau sy’n wynebu’r wlad yn gwaethygu.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ei liniau, mae morgeisi a rhenti pobl wedi codi’n aruthrol, ac mae cwmnïau dŵr wedi pwmpio carthion budr i’n hafonydd a’n traethau – i gyd oherwydd bod gan y Llywodraeth Geidwadol hon fwy o ddiddordeb mewn ymladd ei gilydd na sefyll dros anghenion y wlad.

“Mae pob pleidlais i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad hwn yn bleidlais i bencampwr lleol cryf a fydd yn sefyll dros eich cymuned a’ch gwasanaethau iechyd.

“Mae’n amlwg mai’r ffordd orau o guro’r Ceidwadwyr mewn sawl sedd ar draws y wlad yw pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol.”

16:41

Ymateb Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur

Mae Syr Keir Starmer wedi datgan ei fod yn “amser newid” ac wedi dweud wrth Brydeinwyr i “bleidleisio Llafur” ar ôl i’r Prif Weinidog alw Etholiad Cyffredinol ar Orffennaf 4.

Trydarodd y Blaid Lafur fideo o’i harweinydd yn dweud: “Mae Prydain yn arbennig wych a balch. Ond ar ôl 14 mlynedd o dan y Torïaid, does dim byd i'w weld yn gweithio mwyach.

“Gwasanaethau cyhoeddus yn dadfeilio, ambiwlansys nad ydynt yn dod, teuluoedd dan bwyasu cyfraddau morgeisi uwch, ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein strydoedd. Mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen.

“Nid pum mlynedd arall y Torïaid yw'r ateb. Maen nhw wedi methu.

“Rhowch bum mlynedd arall i’r Torïaid a bydd pethau ond yn gwaethygu. Mae Prydain yn haeddu gwell na hynny.”

16:36

Ymateb y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru

Image
Jane Dodds
Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Jane Dodds: “Mae hi’n amser i’r cyhoedd gael dweud eu dweud am bwy sy’n rhedeg y wlad ar ôl blynyddoedd o lanast ac anhrefn Ceidwadol, o’r diwedd, mae gennym ni’r cyfle i ffarwelio â nhw.

“Mae’n gyfle i etholwyr i anfon neges at San Steffan a Bae Caerdydd eu bod nhw eisiau gweld newydd sylweddol."

16:27

Ymateb Plaid Cymru

Image
Rhun
Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad am yr etholiad, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS:

“Rydyn ni’n barod i fynd â’r frwydr hon i bleidiau Llundain i fynnu’r tegwch y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu.

"Mae'r Torïaid wedi chwalu'r economi ac mae pobl yn i dalu’r pris. Mae Llafur, ar y llaw arall, yn cymryd Cymru'n ganiataol. Wnaiff dim un o bleidiau Llundain roi Cymru'n gyntaf.

“Dim ond Plaid Cymru fydd yn mynnu tegwch i Gymru – bargen ariannu decach fel y gallwn fuddsoddi yn ein heconomi, ein gwasanaeth iechyd ac ysgolion; y biliynau sy’n ddyledus i ni mewn arian rheilffordd fel y gallwn gysylltu ein cymunedau o’r gogledd i’r de; a’r pwerau dros ein adnoddau naturiol,  fel y gallwn adeiladu economi sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy greu swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda."

16:17

Rishi Sunak yn cyhoeddi Etholiad Cyffredinol

Image
Rishi Sunak

Mae Rishi Sunak wedi gwneud ei gyhoeddiad.

Dywedodd bod y Brenin wedi caniatáu ei gais i ddiddymu Senedd San Steffan wrth iddo gyhoeddi Etholiad Cyffredinol 4 Gorffennaf.

Wrth gyhoeddi’r etholiad cyffredinol, dywedodd Rishi Sunak: “Y sefydlogrwydd economaidd yma oedd y dechrau yn unig, y cwestiwn rwan ydi sut a phwy ydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw er mwyn troi’r sylfaen yma yn ddyfodol diogel ar eich cyfer chi, eich teulu ac ein gwlad?

“Rwan ydi’r amser i Brydain i ddewis ei dyfodol, i benderfynu os ydyn ni eisiau adeiladu ar y cynnydd sydd wedi ei wneud neu wynebu’r risg o fynd yn ôl i’r cam cyntaf heb gynllun a heb sicrwydd.

“Yn gynharach heddiw, siaradais gydag Ei Fawrhydi y Brenin i ofyn i ddiddymu’r Senedd.

“Mae’r Brenin wedi cymeradwyo y cais hwn ac fe fydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.”

Mae modd ail-wylio y cyhoeddiad ar lif byw tudalen Facebook Newyddion S4C.

16:09

Y dadansoddi'n dechrau yn barod

Nid yw Rishi Sunak wedi galw'r etholiad yn swyddogol eto ond mae'r dadansoddi gwleidyddol wedi dechrau yn barod.

Yn ôl dirprwy olygydd gwleidyddol Sky News, Sam Coates mae etholiad ar hyn o bryd, gyda'r Ceidwadwyr tua 20 pwynt ar ei hol hi yn y polau piniwn, yn "gambl wleidyddol".

"I rai fe fydd yn edrych fel pe bai Rishi Sunak wedi penderfynu dod a'i gyfnod ei hun yn Brif Weinidog i ben."

Dyma farn Tim Shipman, prif sylwebydd gwleidyddol y Sunday Times:

Dywedodd golygydd gwleidyddol Sky News, Beth Rigby bod y penderfyniad "wedi synnu gan nifer gan nad yw’r prif weinidog wedi cyflawni pob un o’r pum addewid a wnaeth i’r etholwyr ym mis Ionawr 2023 – yn benodol, cychod bach yn parhau i groesi’r Sianel mewn niferoedd mawr".

15:50

Mae disgwyl i Rishi Sunak gyhoeddi y bydd etholiad yn yr haf

Mae disgwyl i Rishi Sunak gyhoeddi tua 17.00 brynhawn Mercher ar ôl cyfarfod cabinet ei lywodraeth y bydd yn diddymu Senedd San Steffan yr wythnos nesaf, gydag Etholiad Cyffredinol i ddilyn yn yr haf.

Yn ôl adroddiadau fe fydd yr Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.

Daw ar ôl i arweinydd y Torïaid ddatgan bod chwyddiant “yn ôl i normal”, yn dilyn ffigyrau swyddogol yn dangos bod chwyddiant wedi arafu i 2.3% ym mis Ebrill.

Os yw'r Etholiad Cyffredinol yn digwydd ym mis Gorffennaf fe fydd hynny chwe mis cyn y dyddiad olaf posib ar gyfer yr etholiad, sef mis Ionawr 2025.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.