Newyddion S4C

Carcharu dyn a aeth i ystafelloedd menywod wrth iddyn nhw gysgu

Evan Powell

Mae dyn a aeth i mewn i ystafelloedd tair o fenywod yn Abertawe tra eu bod nhw’n cysgu wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar.

Aeth Evan Powell, 21 oed, i mewn i’r cartrefi yn ardal Brynmill, yn ystod oriau mân y bore ar 31 Hydref 2024, chwilota drwy ddroriau a dinoethi ei hun.

Fe wnaeth menyw a oedd yn byw yn un o’r tai ddeffro am tua 5.00 a gweld Powell yn sefyll yn ei hystafell wely, cyn iddo fynd i lawr y grisiau a gadael yr eiddo. 

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y fenyw i wybod wedyn fod Powell wedi bod yn ystafell wely ei phlentyn hefyd, ac wedi edrych drwy’r droriau.

Tua awr yn ddiweddarach, aeth Powell i mewn i ail eiddo gerllaw. Deffrôdd y fenyw a oedd yn cysgu yno a dod o hyd i Powell yn sefyll drosti yn pleseru ei hun gyda’i organau rhywiol yn y golwg. Cafodd ei erlid o’r tŷ a galwyd yr heddlu.

Aeth Powell i mewn i drydydd eiddo hefyd, gan ddeffro’r preswylydd drwy agor drws yr ystafell wely, cyn rhedeg allan o’r tŷ.

Fe wnaeth ymholiadau’r heddlu ddarganfod fod Powell wedi ceisio mynd i mewn i bedwerydd eiddo ond nad oedd wedi llwyddo.

Dywedodd Carolina Mayorga-Williams o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Mae’n rhaid bod deffro a gweld dieithryn yn eich ystafell wely chi neu yn ystafell wely eich plentyn yn brofiad brawychus, ac mae’n ymyrryd â hawl rhywun i deimlo’n ddiogel yn ei gartref ei hun.

“Rydyn ni’n cymryd pob honiad o droseddu rhywiol o ddifrif. Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi arwain at y rheithgor yn dyfarnu Powell yn euog ac wedi dod ag ef gerbron y llys.”

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau, dedfrydwyd Powell i bum mlynedd yn y carchar a phedair blynedd ar drwydded estynedig.

Bydd rhaid i Powell dreulio dwy ran o dair o'i ddedfryd o bum mlynedd yn y carchar cyn iddo fod yn gymwys i gael ei ryddhau.

Gorchmynnodd y Barnwr Thomas hefyd i Powell lofnodi'r gofrestr troseddwyr rhyw am oes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.