Darganfod nwyddau tybaco anghyfreithlon mewn dwy siop yng Nghaernarfon
22/05/2024
Cafodd nifer o sigaréts anghyfreithlon, tybaco, vapes a bwyd eu casglu gan yr heddlu o ddwy siop yng Nghaernarfon yn dilyn ymgyrch ddydd Llun.
Roedd swyddogion o Heddlu'r Gogledd, Safonau Masnach Cyngor Gwynedd ac adrannau Iechyd yr Amgylchedd yn rhan o'r ymweliad â'r siopau yn y dref.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu mai bwriad yr ymgyrch oedd "targedu gwerthu cynhyrchion nad yw’n cydymffurfio â deddfwriaeth yr UE/DU a'r effaith y mae'r gwerthiannau hyn wedi bod yn ei gael ar y gymuned leol a phryder o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Roedd y ddau ymweliad yn llwyddiannus ac atafaelwyd llawer iawn o sigaréts anghyfreithlon, tybaco a vapes ac eitemau bwyd fel rhan o'r ymgyrch."