Newyddion S4C

Galw am gydweithio 'radical' i atal llygredd yn yr Afon Gwy

Afon Gwy

Mae grwpiau ymgyrchu wedi galw am gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn mynd i’r afael â llygredd yn yr Afon Gwy.

Fe gafodd statws yr afon, sydd yn llifo drwy Gymru cyn croesi’r ffin i Loegr ac i’r Afon Hafren, ei hisraddio i ‘anffafriol-dirywio’ gan gyrff cyhoeddus Natural England a Chyfoeth Naturiol Cymru yn 2023 o ganlyniad i lygredd o ffermydd a charffosiaeth.

Fis Ebrill, fe gyhoeddodd adran amgylcheddol Llywodraeth DU (Defra) gynllun i fynd i’r afael â’r llygredd ond mae sawl grŵp ymgyrchu wedi’i feirniadu gan ddweud ei fod yn rhy “amwys.”

Maen nhw bellach wedi dod at ei gilydd i gyflwyno cynllun eu hunain yng Ngŵyl y Gelli ddydd Iau, gan alw am “weithredu trawsffiniol radical” rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. 

Dywedodd ymgyrchwyr Ffrindiau’r Afon Gwy, Achub y Gwy, Cyngor i amddiffyn Lloegr Wledig Sir Henffordd (‘CPRE Herefordshire’) a Chymdeithas Eogiaid Gwy bod cynllun Defra ddim ond yn targedu rhannau o’r afon sydd yn Lloegr. Mae nhw wedi galw arnyn nhw i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn creu cynllun effeithiol er mwyn mynd i’r afael â'r llygredd.

“Bydd hyn yn golygu gweithredu trawsffiniol radical er mwyn gweithredu’r gyfraith yn erbyn y rheiny sy’n achosi llygredd, lleihau nifer yr anifeiliaid yn y dalgylch, a lleihau faint o wrtaith a roddir ar dir,” meddai Christine Hugh-Jones o grŵp ymgyrchu Ffrindiau’r Afon Gwy.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn “croesawu’r” cyfle o gydweithio gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael a llygredd yn yr Afon Gwy. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu cydweithio trawsffiniol ac mae gweinidogion Cymru yn parhau i hyrwyddo’r pwysigrwydd o weithio gyda’n gilydd ag ymgysylltu gyda Llywodraeth y DU.” 

Dywedodd mai gwella safon dŵr yr Afon Gwy, yn ogystal ag afonydd cadwraeth arbennig eraill yn flaenoriaeth iddyn nhw. 

Dulliau cyfeillgar

Mae galwadau’r grwpiau ymgyrchu wedi’u cefnogi gan ymddiriedolaethau natur Sir Henffordd a Sir Faesyfed. Mae nhw wedi galw am gymorth ariannol i ffermwyr er mwyn iddyn nhw allu ffermio mewn modd sydd yn “gyfeillgar i afonydd.”

Mae nhw hefyd yn galw am labeli "gonest" ar gynnyrch mewn siopau ac am sefydlu parth er mwyn amddiffyn dŵr yn yr afon. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod yr Afon Gwy yn wynebu “heriau gwirioneddol” a dyna pam eu bod wedi creu cynllun penodol er mwyn eu datrys. 

“Mae gan ein cynllun camau gweithredu clir a fydd yn lleihau’r faint o faetholion sy’n mynd i mewn i’r afon yn sylweddol drwy helpu ffermwyr i drosglwyddo i arferion mwy cynaliadwy.

Dywedodd eu bod hefyd am ddarparu hyd at £35 miliwn o gyllid ar gyfer grant i wella rheolaeth tail dofednod.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.