Newyddion S4C

Bachgen ‘ddim wedi bwriadu lladd ei hun’ mewn ysgol medd crwner

ITV Cymru 29/06/2021
 Bradley John

Nid oedd bachgen a gafodd ei ddarganfod yn farw yn ei ysgol “wedi bwriadu lladd ei hun”, yn ôl crwner mewn cwest i'w farwolaeth. 

Bu farw Bradley John, oedd yn 14 oed, yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod yn nhoiledau Ysgol Uwchradd Gatholig St John, Llanelli. 

Mewn cwest i’r farwolaeth yn Neuadd Tref Llanelli, daeth y Crwner Paul Bennett QC i’r casgliad fod y bachgen wedi cymryd camau i grogi ei hun, ond nad oedd yn credu ei fod wedi bwriadu lladd ei hun. 

Dywedodd wrth y llys “nad oedd tystiolaeth ddigonol i gefnogi’r casgliad o hunanladdiad”. 

Doedd neb wedi gweld Bradley yn yr ysgol am o leiaf awr cyn i’w chwaer a gweithwyr yr ysgol ddod o hyd iddo mewn ciwbicl toiled. 

Darllenwch y stori’n llawn yma

Llun: ITV Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.