Dau ffermwr o Fôn yn y llys i wynebu cyhuddiadau o greulondeb at anifeiliaid
Mae dyn a dynes sydd yn ffermio ym Môn wedi ymddangos yn y llys i wynebu 17 o gyhuddiadau’n ymwneud â chreulondeb at anifeiliaid rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023.
Yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mercher, fe wynebodd Daniel Jones ac Ellis Judson o fferm Bodafon y Glyn, Llannerchymedd, nifer o gyhuddiadau o achosi dioddefaint diangen i anifeiliaid.
Roedd y rhain yn cynnwys cyhuddiad o fethu a darparu dŵr i 84 llo, gyda thri angen sylw milfeddygol ar fys.
Mae'r ddau hefyd yn wynebu cyhuddiad o achosi dioddefaint diangen i bedair buwch odro, gyda’r anifeiliaid yn esgyrnog, heb dderbyn digon o ddŵr, ac yn methu sefyll medd yr erlyniad. Bu’n rhaid i dair o’r pedair buwch gael eu difa.
Maent hefyd wedi eu cyhuddo o fethu a darparu dŵr i fuwch a llo oedd angen triniaeth filfeddygol. Bu farw’r ddau anifail yn ddiweddarach.
Mae un cyhuddiad yn ymwneud â methiant honedig i sicrhau amgylchedd addas a bwyd i 20 o heffrod.
Cyhuddiad arall gan yr erlyniad, sef Cyngor Ynys Môn, yn erbyn Mr Jones a Miss Judson yw eu bod wedi methu a darparu bwyd, dŵr a llecyn sych i orwedd i 80 o wartheg a 30 llo.
Cyrff anifeiliaid
Mae cyhuddiadau eraill yn ymwneud â sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Dywed yr erlyniad bod cyrff neu rannau o gyrff o leiaf 18 o wartheg a lloi a nifer o garcasau heb eu cadw'n briodol.
Roeddynt wedi eu claddu mewn tomenni tail a hen bwll silwair, tra’n disgwyl iddynt gael eu hanfon i gael eu gwaredu.
Roedd cyrff neu rannau o gyrff pedair buwch a nifer o garcasau wedi ei claddu mewn pentyrau o bridd tra’n disgwydd iddynt gael eu hafnon i gael eu gwaredu hefyd.
Mae cyhuddiadau eraill yn cynnwys peidio â dilyn Hysbysiad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid rhwng 14/01/2023 a 06/04/2023.
Maent hefyd wedi eu cyhuddo o fethu a darparu cofnodion ar gyfer cynnyrch milfeddygol, methu a chynhyrchu cofnodion o fuches a methu a chofnodi marwolaeth anifeliaid o fewn saith diwrnod.
Ni wnaeth y diffynyddion gynnig ple, ac fe gafodd yr achos ei ohirio tan 17 Gorffennaf.