Newyddion S4C

Iwerddon, Sbaen a Norwy i gydnabod Palesteina fel gwladwriaeth

22/05/2024
Baner Palestina

Mae Iwerddon, Sbaen a Norwy wedi cyhoeddi cynlluniau i gydnabod gwladwriaeth Balestinaidd yn swyddogol o 28 Mai.

Fore Mercher fe wnaeth arweinwyr y tair gwlad gyhoeddi y byddant yn ymuno gyda 140 o wledydd ledled y byd sydd yn cydnabod gwladwriaeth Palesteina.

Norwy oedd y cyntaf i gyhoeddi hyn, gyda Phrif Weinidog y wlad, Jonas Gahr Store yn dweud y bydd Norwy yn cydnabod y wladwriaeth Balesteinaidd "er lles gorau" Israel.

Yn Madrid, mae araith Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sanchez, ar y pwnc wedi derbyn cymeradwyaeth yn y senedd.

"Rydyn ni’n mynd i adnabod Palesteina am lawer o resymau a gallwn grynhoi hynny mewn tri gair – heddwch, cyfiawnder a chysondeb,” meddai.

“Rhaid i ni sicrhau bod y datrysiad dwy wladwriaeth yn cael ei barchu a rhaid cael gwarantau diogelwch ar y cyd."

Dywedodd Taoiseach newydd Iwerddon, Simon Harris mai cydnabod y wladwriaeth yw'r peth cywir i'w wneud.

“Mae’n hanfodol bod y ddwy ochr yn negodi dros heddwch ac am y rheswm hwn rydym yn cydnabod Palesteina."

Ychwanegodd na ddylai'r penderfyniad orfod aros "am gyfnod amhenodol" pan mai dyna'r "peth iawn i'w wneud".

'Canlyniadau difrifol'

Mae Gweinidog Tramor Israel Katz yn galw’r penderfyniad yn un sy’n dangos bod “terfysgaeth yn talu.”

“Rwy’n anfon neges glir i Iwerddon a Norwy: ni fydd Israel yn gwrthwynebu’r rhai sy’n tanseilio ei sofraniaeth ac yn peryglu ei diogelwch,” meddai.

"Ni fydd Israel yn derbyn hyn mewn distawrwydd - bydd canlyniadau difrifol eraill."

Cyn i Sbaen gwneud eu penderfyniad, dywedodd Mr Katz y bydd "camau tebyg yn cael eu cymryd yn eu herbyn" pe bai'r wlad yn cydnabod Palesteina.

Prif lun: Artur Wida / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.