Newyddion S4C

Rheolau newydd i orfodi lladd-dai Cymru i osod camerâu

22/05/2024
Camera lladd dai

Mae rheoliadau newydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Senedd a fydd yn ei gwneud yn orfodol i osod CCTV ym mhob lladd-dy yng Nghymru.

Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid gosod camerâu CCTV ym mhob lladd-dy mewn mannau lle mae anifeiliaid byw’n cael eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, a'u lladd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r bwriad yw ceisio cynnal a gwella safonau lles ar gyfer pob anifail.

"Mae eisoes gan y rhan fwyaf o ladd-dai yng Nghymru CCTV. Mae'r gofyniad hwn yn sicrhau bod pob lladd-dy yn cael ei gynnwys, gan gefnogi hyder defnyddwyr bod safonau lles yn cael eu sicrhau," meddai'r Llywodraeth.   

Bydd gofynion i osod a gweithredu system CCTV a chadw recordiadau a gwybodaeth CCTV yn dod i rym ar 1 Mehefin.

Dros gyfnod o chwe mis, bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio gyda'r lladd-dai i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion, cyn i'r Rheoliadau gael eu gorfodi ar 1 Rhagfyr.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Rydyn ni am i'n hanifeiliaid fferm gael ansawdd bywyd da ac mae lles anifeiliaid mewn lladd-dai o'r pwys mwyaf inni.

"Mae'r rhwydwaith o ladd-dai yng Nghymru yn darparu gwasanaethau hanfodol i ffermwyr, cigyddion a defnyddwyr. Maent hefyd yn darparu swyddi medrus ac yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol. Mae gwneud CCTV yn orfodol ym mhob lladd-dy yng Nghymru yn rhoi rhagor o hyder i ddefnyddwyr fod safonau lles yn cael eu sicrhau."

Mae RSPCA Cymru wedi croesawu'r newyddion. Dywedodd rheolwr materion cyhoeddus yr elusen Billie-Jade Thomas:“Rydym wrth ein bodd bod aelodau'r Senedd wedi pleidleisio yn unfrydol dros y rheoliadau newydd hyn. 

“Bydd camera CCTV gorfodol mewn lladd- dai yng Nghymru yn fodd o warchod lles anifeiliaid wrth iddyn nhw fod yn y broses o gael eu lladd."   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.