Newyddion S4C

Yr Wylfa ar Ynys Môn yn ddewis cyntaf ar gyfer gorsaf niwclear newydd

21/05/2024

Yr Wylfa ar Ynys Môn yn ddewis cyntaf ar gyfer gorsaf niwclear newydd

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau mai safle'r Wylfa ar Ynys Môn yw eu dewis cyntaf ar gyfer gorsaf niwclear newydd.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r Llywodraeth gyhoeddi ym mis Mawrth eu bod yn prynu tir safleoedd Wylfa ac Oldbury yn Sir Gaerloyw am £160m.

Bydd y Llywodraeth yn dechrau trafod â chwmnïau ynni byd eang er mwyn ystyried cynlluniau i godi'r orsaf niwclear newydd.

Yn ôl y Llywodraeth, byddai'r orsaf yn darparu "digonedd o ynni rhad, glan a dibynadwy ar gyfer chwe miliwn o gartrefi am 60 mlynedd".

Y cwmni Niwclear Prydain Fawr (Great British Nuclear) sydd y tu ôl i'r fenter.

Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth y DU gael gafael ar dir er mwyn sefydlu gorsaf niwclear ers y 60au.

Byddai'r datblygiad yn cefnogi'r DU i gyrraedd ei tharged o sicrhau fod chwarter y trydan sy'n cael ei gynhyrchu - tua 24GW - yn dod o ynni niwclear ar Ynysoedd Prydain erbyn 2050. Ar hyn o bryd, mae’r DU yn cynhyrchu tua 15% o’i hanghenion trydan presennol o tua 6.5GW o gapasiti niwclear.

Mae'r Wylfa a Thrawsfynydd ymysg nifer o leoliadau sydd â'r posibilrwydd o fod yn gartref i brosiectau niwclear newydd i'r dyfodol.

Rhoddodd y cwmni Hitachi y gorau i gynllun i godi atomfa newydd yn Wylfa yn 2021 oherwydd pryderon ariannol a chostau cynyddol.

'Adfywio hanes'

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddai gorsaf niwclear Wylfa yn debyg i Hinkley yng Ngwlad yr Haf a Sizewell yn Suffolk o ran maint, gan ddadlau y byddai'n "adfywio hanes niwclear yr Wylfa, a chreu miloedd o swyddi a buddsoddiad i'r ardal". 

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Net Sero, Claire Coutinho mai dyma'r "ehangiad mwyaf mewn ynni niwclear ers 70 mlynedd".

“Mae gan Ynys Môn hanes niwclear balch ac mae ond yn iawn, unwaith eto, ei bod yn chwarae rhan ganolog wrth hybu diogelwch ynni’r DU.

“Byddai Wylfa nid yn unig yn dod â phŵer glân, dibynadwy i filiynau o gartrefi – fe allai greu miloedd o swyddi sy’n talu’n dda a dod â buddsoddiad i ogledd Cymru gyfan.”

Image
Wylfa

Dywedodd prif swyddog gweithredol Niwclear Prydain Fawr, Gwen Parry-Jones: 

“Ar ôl cytuno i brynu safle'r Wylfa yn gynharach eleni, mae Niwclear Prydain Fawr yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth ar y rhaglen ymgysylltu â’r farchnad ar gyfer darparwyr gigawat ar raddfa fawr a hefyd cyflawni’r prosiect hanfodol hwn yn y blynyddoedd i ddod.”

'Arwyddocaol'

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies bod hwn yn newyddion "arwyddocaol" a fydd yn cael ei groesawu.

“Mae'n addo dod â miloedd o swyddi o safon uchel i'r economi leol, meddai.

“Ynghyd ag adfywiad ynni niwclear yn yr Wylfa, mae mesurau diweddar rydym wedi’u cyhoeddi yn cynnwys porthladd rhydd i Ynys Môn, £17m o arian y gronfa ffyniant bro i Gaergybi, a thrydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, sy’n dangos bod Llywodraeth y DU yn parhau i ddarparu ar gyfer Ynys Môn a gogledd Cymru.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cysgodol Llafur Cymru, Jo Stevens bod “unrhyw gynnydd i’w groesawu”.

“Ond bydd pobl Ynys Môn yn ei gredu pan fyddant yn ei weld,” meddai.

“Mae llywodraethau Ceidwadol olynol wedi methu ag adeiladu gorsaf ynni niwclear fydd yn darparu pŵer carbon is, yn hybu diogelwch ynni ac yn creu swyddi.

“Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r gweinidogion eistedd yn ôl a gwylio wrth i’r cynlluniau blaenorol ar gyfer yr Wylfa ddod i ben. Byddai 50% o'r prosiect hwnnw wedi’i gwblhau erbyn hyn, a byddem yn gweld manteision miloedd o swyddi adeiladu gyda bron i fil yn fwy o swyddi parhaol ar y ffordd.

“Ar ôl 14 mlynedd mae’n hen bryd i bobl gael Llywodraeth y DU y gallent ddibynnu arni. Bydd Llafur yn cefnogi adeiladu niwclear newydd mewn lleoedd fel Wylfa, gan ddatgloi potensial trawsnewidiol buddsoddiad a swyddi y mae’r Ceidwadwyr wedi’u gadael yn segur.”

'Safle gorau yn Ewrop'

Dywedodd uwch ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Prospect, Sue Ferns: “Mae'r Wylfa yn cynrychioli’r safle gorau yn Ewrop ar gyfer gorsaf bŵer niwclear ar raddfa fawr. Gyda'r cyhoeddiad hwn, mae hyn bellach wedi'i gydnabod gan Lywodraeth y DU.

“Mae gorsafoedd ynni niwclear newydd ar raddfa gigawat yn hanfodol i gyrraedd net sero ac ar gyfer ein diogelwch ynni. Ond maen nhw hefyd yn cynnal swyddi medrus iawn sy’n talu’n dda, sy’n golygu y byddai’r prosiect hwn yn hwb mawr i economi Cymru.

“Nawr mae angen ffocws ar gyflenwi niwclear newydd i sicrhau nad yw sgiliau a phrofiad yn cael eu colli, a bod costau’n cael eu lleihau wrth i ni symud ymlaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.