Rhuthro i achub peint wedi i ‘gorwynt bach’ chwythu heibio i dafarn

Rhuthro i achub peint wedi i ‘gorwynt bach’ chwythu heibio i dafarn
Roedd pobl mewn tafarn yn Sir Benfro “mewn sioc” ar ôl bod yn dyst i’r hyn a gafodd ei alw’n “gorwynt bach.”
Roedd pobl leol yn mwynhau diod yn yr haul yn y Begelly Arms, ger Llanusyllt pan darodd y corwynt ddydd Llun.
Mae fideo cylch cyfyng y dafarn yn dangos beth gafodd ei ddisgrifio’n ddiweddarach fel “diawl o lwch” yn ysgubo trwy’r maes parcio, cyn diflannu heibio i wal yr adeilad.
Mae modd gweld aelodau o’r cyhoedd yn rhedeg oddi wrth y corwynt ar y fideo, gydag un cwsmer yn rhuthro i achub ei beint yr oedd wedi’i gadael ar fwrdd cyfagos.
Dywedodd y perchennog, Peter Adams wrth ITV Cymru Wales ei fod yn eistedd y tu allan gyda rhai o’i gwsmeriaid pan wnaeth glywed larwm car yn dechrau atseinio.
“Ro’n ni wedi gweld y peth yma yn dod tuag atom!” meddai.
"Ro’n ni'n meddwl mai dechrau corwynt oedd e. Ry’ch chi’n gweld y pethau hyn yn dechrau ar y teledu drwy'r amser. Fe wnaethom ni gael ychydig o banig a meddwl 'beth allwn ni ei wneud?'"
Er gwaethaf y sioc, ni allai Mr Adams helpu ond chwerthin, gan ddweud: "Ro’n ni i gyd wedi ein gorchuddio â llwch... roedd fy ngwraig yn golchi ei gwallt ac yn methu credu faint o lwch oedd ynddo!"
Mae'r Swyddfa Dywydd yn disgrifio'r digwyddiad, sy’n cael ei alw’n ddiafol llwch, fel "fortecs o aer sy'n troelli i fyny ac yn llawn llwch" ac fe all amrywio o ychydig droedfeddi i dros 1,000 troedfedd.
Ond mae’r rhain yn llawer llai nerthol a dinistriol na chorwyntoedd, gan eu bod yn cynnwys llwch ac weithiau malurion rhydd yn unig.