Newyddion S4C

Rhai o enwau amlwg bro Eisteddfod yr Urdd eleni

26/05/2024
Pobl Maldwyn

Ar drothwy prifwyl yr Urdd 2024, beth am edrych ar rai o enwau'r Cymry amlwg sydd wedi eu cysylltu â bro'r eisteddfod eleni.

NANSI RICHARDS (Telynores Maldwyn)

Image
Nansi Richards

Ganwyd Nansi Richards ar fferm ym Mhenybontfawr. Dywedodd mai un o'r dylanwadau mwyaf arni hi oedd teulu Abram Wood (sipsiwn a ddaeth i aros ar eu fferm deuluol).

Fe gafodd ar un adeg ei phenodi yn delynores swyddogol i'r Tywysog Siarl, Tywysog Cymru ar y pryd.

Bu'n fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol, y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangollen 1908.

Aeth i Goleg y Guildhall yn Llundain, ac yn ystod ei gyrfa, gweithiodd yn aml yn yr Unol Daleithiau.

Roedd hi'n gyfaill i William Kellogg, perchennog y cwmni sy'n cynhyrchu creision ŷd, ac fe honir mai hi oedd yr un awgrymodd wrtho i ddefnyddio ceiliog ar y paced.

Yn 1977 cafodd radd Doethur er Anrhydedd mewn cerddoriaeth gan Brifysgol Cymru.

Bu farw yn 1979, a chafodd ei chladdu yn eglwys Pennant Melangell.

 

SIÂN JAMES

Image
Sian James

Cantores a thelynores werin draddodiadol yw Siân James o Lanerfyl.

Bu Siân James yn cymryd rhan mewn eisteddfodau lleol o oedran cynnar iawn, gan ganu'r piano, y ffidil ac yn ddiweddarach y delyn.

Tra'n dal yn fyfyrwraig yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, dechreuodd gyfansoddi ei chaneuon ei hun a threfnu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Aeth ymlaen i ddarllen cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Mae hi hefyd yn adnabyddus am ei gwaith actio ar deledu Cymraeg.

Mae Siân James hefyd wedi bod yn arwain ac yn cyfeilio i gôr dynion Cymreig o'r enw Parti Cut Lloi.

Yn 2009, perfformiodd sawl gwaith gyda'r côr yng Ngŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian yn Washington, D.C.

 

ARWYN GROE

Image
Arwyn Groe

Bardd ac amaethwr o Ddyffryn Banw yw Arwyn 'Groe' Davies. 

Mae'n ymrysona gyda thîm Maldwyn, ac yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd Gwylliaid Cochion y Llew.

RHYS MWYN

Image
Rhys Mwyn

Fe gafodd Gwynedd Rhys 'Mwyn' Thomas ei fagu yn Llanfair Caereinion, mae'n golofnydd ac archaeolegydd ac yn gyn ganwr a chwaraewr gitar fas gyda'r band roc/pync Cymraeg, Anhrefn.

Yn ystod y cyfnod y bu'n aelod o Anhrefn, bu Rhys Mwyn yn gyfrifol am redeg cwmni recordiau annibynnol "Recordiau Anhrefn" a ryddhaodd recordiau cynnar gan grwpiau amlwg yn cynnwys y Cyrff, Datblygu, Llwybr Llaethog, Fflaps, Tynal Tywyll ac eraill.

Bathwyd yr enw 'Rhys Mwyn' mewn camgymeriad gan y cyflwynydd radio Nic Parry tua 1980. Roedd Mwyn wedi danfon datganiad gwasg at Radio Cymru yn cynnwys cyfeiriad post yr Anhrefn yn 'Llys Mwyn', cartref aelod arall o'r grŵp. Drwy gamgymeriad felly, cyfeiriwyd at 'Rhys Mwyn' ac ers hynny dyna'r llysenw mae'n ei arddel.

Ers 2016, mae'n cyflwyno ei raglen radio "Recordiau Rhys Mwyn", ar nos Lun ar BBC Radio Cymru.

STEFFAN HARRI

Image
Steffan Harri

Yn wyneb a llais cyfarwydd, fe ddaeth Steffan Harri i amlygrwydd drwy sioeau cerdd Cwmni Theatr Maldwyn.

Mae wedi troedio rhai o brif lwyfanau'r wlad fel perfformiwr, yn arbennig felly ym myd y sioeau cerdd fel prif gymeriadau yn Shrek the Musical, a Les Miserables.

Mae hefyd wedi perfformio mewn dramau llwyfan, gan gynnwys cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Y Tylwyth.

Mae Steffan hefyd wedi ymddangos yn y gyfres ddrama Rownd a Rownd ar S4C.

 

ELERI MILLS

Image
Eleri Mills

Fe gafodd yr artist Eleri Mills ei geni ym mhentref Llangadfan ym Mhowys.

Mi aeth ymlaen i astudio ac enill gradd B.A. mewn Celf a Dylunio o Goleg Polytechnig Manceinion.

Mae arddull ei gwaith yn arwyddocaol, ac mae tirwedd ardal bro'r eisteddfod yn amlwg i'w weld yn ei darluniau.

Cafodd ei hethol i'r Academi Frenhinol Gymreig yn 2000 ac yn 2012 roedd yn artist preswyl ym Mhrifysgol Columbia yn Efrog Newydd.

 

PLETHYN

Image
Plethyn

Un o fandiau amlycaf i gael eu cysylltu â Maldwyn yw'r  grŵp canu gwerin Plethyn, a oedd yn amlwg iawn ar lwyfanau ar draws Cymru rhwng 1978 ac 1995.

Yr aelodau oedd Roy Griffiths, Linda Healy a John Gittins.

Brawd a chwaer ydy Roy a Linda, gyda John Gittins wedi ei eni ar fferm, ger Meifod ym Maldwyn.

Mae eu harddull yn dangos dylanwad canu plygain yr ardal honno, ac wedi poblogeiddio nifer o ganeuon gwerin yn ogystal â chreu caneuon newydd ar arddull draddodiadol.

ELEN RHYS

Mae Elen Rhys yn ffigwr amlwg yn y byd adloniant a theledu yng Nghymru ac yn wreiddiol o ardal Clywedog,  ganddi brofiad cynhwysfawr o greu, ysgrifennu, cynhyrchu a goruchwylio cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol ar draws pob llwyfan.

Elen yw Pennaeth Adloniant S4C ar hyn o bryd, ac mae'n gyn enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr sy'n anrhydeddu Prif Adroddwr ein Prifwyl.

Mae Elen wedi gweithio ar nifer o gynyrchiadau cerddoriaeth y BBC, gan gynnwys BBC Young Musician, Choir of the Year, Canwr y Byd Caerdydd, Proms in the Park 2014, Plant Mewn Angen a rhaglenni rhwydwaith uchafbwyntiau'r Eisteddfod Genedlaethol ar y BBC.

Image
Elen Rhys

MYFANWY ALEXANDER

Image
Myfanwy Alexander

Sgwennwr a darlledwr o Sir Drefaldwyn yw Myfanwy Alexander.

Er iddi fyw mewn sawl rhan o Brydain, dychwelodd i fagu chwech o ferched mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion.

Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu, gan gynnwys nifer o raglenni comedi a dychan.

Enillodd wobr Sony am y gyfres gomedi The LL Files i Radio Wales yn 1999.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Oes Heddwas? yn 2015, ac fe gafodd y chyfrol ei chyfieithu i'r Saesneg yn haf 2017 dan y teitl Bloody Eisteddfod.

Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel dirprwy arweinydd Cyngor Sir Powys, ac yn parhau i gyfranu ar lefel llywodraeth leol.

Mae hefyd yn chwaer i'r cyn-wleidydd Helen Mary Jones.

 

GWYN ERFYL

Image
Gwyn Erfyl

Roedd Gwyn Erfyl Jones yn ddarlledwr, awdur, cynhyrchydd a phregethwr a gafodd ei fagu ar fferm Aberdeunant ger Llanerfyl, a bu’n ddisgybl yn ysgol y pentref ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion. 

Oherwydd ei gredoau crefyddol, fe wrthododd ymuno â’r Fyddin ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd fel dyn ifanc a threuliodd dair mlynedd yn gweithio mewn gwersylloedd carcharorion rhyfel.

Mi aeth ymlaen i weithio yn y byd darlledu ar raglen dyddiol Y Dydd a’r rhaglen Dan Sylw. Bu’n cyflwyno a chynhyrchu cyn dod yn is-bennaeth rhaglenni TWW ac HTV Cymru. Cafodd ei benodi’n Bennaeth Rhaglenni Dogfen a Chrefydd HTV Cymru'n 1980.

Roedd hefyd yn olygydd i’r cylchgrawn Barn o 1975-1979, a chyhoeddodd sawl llyfr hunangofiannol a chyfrolau cerddi.

Roedd Gwyn Erfyl hefyd yn daid i'r gyflwynwraig adnabyddus, Mari Lovgreen, sydd erbyn hyn wedi ymgartrefu yn Sir Drefaldwyn dafliad carreg o Faes yr Eisteddfod eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.