Newyddion S4C

Cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad sgandal gwaed

21/05/2024

Cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad sgandal gwaed

"Oedd fy nhad yn obsessed am gymryd lluniau a fideo o bethau.

"Hyd yn oed 'nôl yn y '70au, roedd cines 'da fe."

Erbyn hyn, mae Owain Harris yn falch iawn fod ei dad, Norman wedi bod mor eiddgar i gofnodi ei fywyd ar gamera gan bod edrych ar yr hen ffilmiau yn cynnig cyfle iddo ail-fyw atgofion melys ei blentyndod.

"Fi yw hwnna'n fan'na.

"Fi ddim yn cofio'r ty. Symudais i o fan'na pan o'n i'n ddwy flwydd."

Mae un ffilm sy'n dangos y teulu ar draeth yn ne orllewin Lloegr yn dod a gwen i wyneb Owain.

Edrycha ar y tryncs 'na!

"Gwylia'n Cernyw. Bendant Cernyw.

"Oedd e'n teimlo fod e byth yn gallu mynd dramor ar y pryd hwn."

A'r rheswm am hynny oedd fod gan Norman hemoffilia.

Cyflwr lle nad yw'r gwaed yn ceulo'n iawn.

Petai Norman yn cael unrhyw gnoc neu anaf, gallai waedu'n ddifrifol.

"Cafodd fy nhad ei eni yn 1946.

"Darganfuodd bod hemoffilia arno fe yn y diwrnodau cyntaf ar ol iddo gael ei eni.

"Mae e'n glefyd eithaf anghyffredin.

"Oedd dim triniaeth o gwbl yn y '40au ar gyfer hemoffilia."

Ond yn y '70au a'r '80au cynnar, cafodd Norman driniaeth newydd oedd yn cael ei ystyried yn chwyldroadol ac yn cynnig gobaith newydd i filoedd.

Roedd y driniaeth yn cynnwys elfennau o'r enw ffactor 8 a 9 oedd yn cynyddu gallu'r gwaed i geulo a'n caniatau i ddioddefwyr drin eu hunain yn hytrach na mynd i'r ysbyty.

"Roedd e wedi galluogi fe i ymdrin â unrhyw gwaedu oedd gyda fe ei hun gartref neu os oedden ni i ffwrdd ar wyliau.

"Am gyfnod o ddiwrnodau bysai fe'n chwistrellu factor 8 mewn i'w wythiennau e."

Yn ddiarwybod i nifer oedd yn ei dderbyn roedd y driniaeth yn cael ei gynhyrchu trwy grynhoi gwaed o ffynonellau oedd ddim yn ddiogel.

Fe drodd y driniaeth oedd yn cynnig gobaith yn hunllef i filoedd.

"Darganfuodd fe a fy mam yn ystod yr '80au bod fy nhad wedi dal hepatitis C a bod ganddo fe HIV.

"Oedden nhw'n galw fe'n rhywbeth arall ar y pryd."

Fe gadwodd Norman ei HIV yn gyfrinach am flynyddoedd gan ddewis peidio dweud wrth ei blant hyd yn oed.

"Y rheswm ni'n ddig yw bod pobl ddim yn fodlon cyfaddef bod rhywun ar fai."

Wrth i'w iechyd ddirywio'n raddol fe roddodd gorau i'w swydd fel athro yn y '90au cynnar.

Roedd e'n dal i fod yn weithgar iawn fel ymgyrchydd ar ran dioddefwyr.

Ein gohebydd, Arwyn Evans, sydd â stori protestiwr a gafodd ei heintio gyda hepatitis C 20 mlynedd yn ôl.

Wi'n cymryd bod ti ddim yn cofio gweld hwn ond roedd dy dad yn barod i rannu'i stori.

"Oedd e'n barod i rannu stori bod pobl 'di cael'u heffeithio gan hyn."

Mae Norman Harris wedi brwydro drwy'r gwynt a glaw i gael atebion.

"Mae rhai dal yn dioddef a dwi'n credu mae'n iawn bod pawb yn gwybod y gwirionedd."

So fe, yn ystod y cyfnod yna, yn chwilio am atebion.

"Yr un peth 'dan ni'n gofyn am nawr.

"Ni dal yn gofyn am atebion i beth ddigwyddodd."

Yn 2012, ac yntau'n 65 mlwydd oed, fe fu farw Norman.

Roedd hynny bum mlynedd cyn i Lywodraeth Theresa May gyhoeddi y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn digwydd o'r diwedd.

"I want to ensure that this enquiry is going to provide the answers the victims and their families want as to how this was able to happen."

Mae Owain, ei chwaer a'i fam wedi rhoi tystiolaeth anhysbys i'r ymchwiliad am eu profiadau ond dyma'r tro cynta i'r teulu rannu'r stori'n gyhoeddus.

"Cover-up llwyr gan y sefydliad, yn union be fi'n gweld sy wedi mynd 'nôl blynyddoedd lawer.

"Fi ddim yn credu bod nhw 'di eisiau delio gyda fe."

A'r ymchwiliad nawr ar ben, beth mae Owain am weld yn digwydd nesa?

"Jyst yn moyn i gamgymeriadau fel hyn beidio digwydd eto.

"Mae rhan o fi'n meddwl bod gwledydd eraill wedi delio a fe'n wahanol.

"Nath Ffrainc blynyddoedd yn ôl danfon gwleidydd i'r carchar ynglyn â'r ffordd oedd e'n bersonol wedi delio gyda fe.

"Bysa hynny'n neis i weld ond wedyn, nage jyst un person oedd yn gyfrifol am y saga yna sydd wedi mynd ymlaen am ddegawdau.

"Licien i wybod pwy sydd ar fai, pam bod nhw ar fai a be maen nhw 'di neud yn wrong."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.