Arestio tri ar amheuaeth o ddwyn wedi i'r heddlu ddod o hyd i Jetskis
Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddwyn wedi i'r heddlu ddod o hyd i ddau feic dŵr mewn cerbydau ar yr A55.
Fore dydd Llun, fe wnaeth swyddogion Uned Plismona'r Ffyrdd stopio fan yn Llanelwy gan nad oedd gan y gyrrwr yswiriant.
Fe geisiodd y gyrrwr redeg i ffwrdd o'r lleoliad gan adael y fan yn y lôn.
Wrth agor cefn y fan fe ddaeth swyddogion o hyd i feic dŵr, neu Jetski.
Wrth chwilio'n ehangach yn yr ardal, fe gafwyd hyd i ail fan a beic dŵr arall ynddi.
Cafodd tri dyn eu harestio ar amheuaeth o ddwyn.
Yn ddiweddarach y bore hwnnw fe gafwyd adroddiadau bod nifer o feiciau dŵr wedi eu dwyn ar Ynys Môn.
Mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Llun: Heddlu Gogledd Cymru.