Dynes yn ei 50au wedi marw wedi ymosodiad gan gŵn XL Bully
Mae dynes yn ei 50au wedi marw ar ôl ymosodiad gan ddau gi XL Bully yn nwyrain Llundain yn ôl Heddlu'r Met.
Cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad yn ardal Hornchurch yn y brifddinas am tua 13:12 ddydd Llun.
Fe gafodd y ddynes ei thrin gan feddygon Gwasanaeth Ambiwlans Llundain, ond fe fuodd hi farw yn y fan a'r lle.
Yn ôl y Met, yn sgil y perygl posib, fe ddaeth swyddogion arfog yno a chymryd y ddau gi, sef dau XL Bully cofrestredig.
Roedd y cŵn wedi cael eu cau mewn ystafell cyn i'r swyddogion gyrraedd.
Mae teulu'r ddynes yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae hi yn drosedd i fod yn berchen ar XL Bully ers 1 Chwefror oni bai bod gan berchnogion yng Nghymru a Lloegr ffurflen sy'n eu heithrio.