Newyddion S4C

Netanyahu yn gwrthwynebu ymgais i'w arestio yn sgil y rhyfel yn Gaza

21/05/2024
Benjamin Netanyahu

Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi condemnio erlynydd y Llys Troseddol Rhyngwladol am geisio sicrhau gwarant i'w arestio ef ag arweinwyr Hamas yn sgil troseddau rhyfel honedig yn y gwrthdaro yn Gaza. 

Dywedodd Mr Netanyahu ei fod yn gwrthwynebu'n chwyrn fod "Israel ddemocrataidd" wedi cael ei chymharu gyda'r hyn oedd yn galw yn "lofruddwyr".

Mae sylwadau Mr Netanyahu wedi cael eu cefnogi gan arlywydd America Joe Biden.

Yn ôl Joe Biden does dim modd cymharu Israel a Hamas. 

Dywedodd prif erlynydd y Llys Troseddol Rhyngwladol (ICC), Karim Khan, fod yna le rhesymol i gredu fod gan Mr Netanyahu a'i Weinidog Amddiffyn, Yoav Gallant, gyfrifoldeb troseddol am y troseddau rhyfel honedig yn Gaza. 

Mae'r ICC yn ceisio sicrhau gwarant i arestio arweinydd Hamas yn Gaza, Yahya Sinwar, am droseddau rhyfel.

Nid yw Israel, a'i chynghreiriad, UDA, yn aelodau o'r ICC, a gafodd ei sefydlu yn 2002.

Mae'r cyhuddiadau yn erbyn arweinwyr Israel a Hamas yn deillio o'r digwyddiadau ar 7 Hydref y llynedd.

Cafodd bron i 1,200 o bobl eu lladd y diwrnod hwnnw ac fe gafodd 252 eu cymryd yn ôl i Gaza yn wystlon.

Fe wnaeth yr ymosodiad arwain at ryfel.

Ers dechrau'r rhyfel mae o leiaf 35,000 o Balesteiniaid wedi eu lladd yn Gaza yn ôl gweinyddiaeth iechyd y diriogaeth sy'n cael ei rhedeg gan Hamas. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.