Ceisio llenwi swyddi wedi ymadawiad gweithwyr o dramor
Bydd bobl ddi-waith o'r Deyrnas Unedig yn cael cynnig llefydd ar weithdai sgiliau, yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU i lenwi bylchau a oedd yn arfer cael eu llenwi gan weithwyr o dramor.
Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Mel Stride, gyhoeddi y bydd y rhai sy'n hawlio budd-daliadau yn cael cynnig hyfforddiant mewn sectorau sy'n brin o weithwyr yn cynnwys lletygarwch, gofal, adeiladu a gweithgynhyrchu.
Mewn araith ddydd Mawrth, mae disgwyl iddo ddweud bod y Deyrnas Unedig wedi dibynnu ar weithwyr o dramor am "gyfnod yn rhy hir."
Daw'r datblygiad wedi i'r Swyddfa Gartref gyhoeddi cyfres o gyfyngiadau er mwyn gostwng y niferoedd sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig.
Mae'r mesurau yn cynnwys gwahardd gweithwyr gofal o dramor rhag dod ag aelodau o'u teulu sy'n ddibynnol arnyn nhw draw i Brydain.
Mae disgwyl i Mr Stride nodi bod hwn yn gyfle "enfawr" i filoedd o bobl sy'n chwilio am waith symud i swyddi a oedd yn arfer cael eu cyflawni gan weithwyr o dramor.
“Mae fy neges i fusnesau yn glir: mae ein timau mewn canolfannau gwaith yn barod i ddod o hyd i'r ymgeisydd cywir, ac ry'n ni eisiau gweithio gyda chi er mwyn goresgyn yr heriau wrth recriwtio,” mae disgwyl i Mr Stride ei ddweud.
“Ac mae fy neges i Brydeinwyr hefyd - yn rhy hir, ry'n ni wedi dibynnu ar weithwyr o dramor tra bo doniau aruthrol yma yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n benderfynol o wneud yn iawn am hynny. ”
Yn ôl y Blaid Lafur "siop siarad arall" yw'r cynllun.
Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar waith a phensiynau, Alison McGovern AS: “Wedi 14 o flynyddoedd o fethiant y Torïaid, ni all Mel Stride ddianc rhag record y Ceidwadwyr ym maes gwaith."