Newyddion S4C

Ofcom yn ystyried cosbi GB News am dorri rheolau darlledu

20/05/2024
gb news.png

Cyhoeddodd Ofcom ei fod yn ystyried cosbi sianel GB News, am dorri rheolau yn ymwneud â darlledu di-duedd.

Gallai'r sianel golli ei thrwydded neu dderbyn dirwy sylweddol. 

Cyhoeddodd y rheoleiddiwr fis Chwefror eu bod yn ymchwilio i sesiwn holi ac ateb, pan fu'r Prif Weinidog Rishi Sunak yn ateb cwestiynau gan y cyhoedd. 

Ddydd Llun, dywedodd Ofcom eu bod wedi dod i’r casgliad bod y rhaglen, o’r enw ‘People’s Forum: The Prime Minister’, wedi torri eu rheolau darlledu. 

Nododd y rheoleiddiwr nad oedd safbwyntiau'r Blaid Lafur wedi'u cynnwys yn y rhaglen, ac nad oedd cyfeiriad at unrhyw raglen yn y dyfodol lle byddent yn cael eu cynnwys. 

Ychwanegodd Ofcom: "O ganlyniad, roedd gan Rishi Sunak lwyfan diwrthwynebiad yn bennaf i hyrwyddo polisïau a pherfformiad ei lywodraeth mewn cyfnod cyn etholiad cyffredinol y DU."

“Rydym bellach yn dechrau ar y broses o ystyried cosb statudol yn erbyn GB News”, meddai Ofcom. 

Dywedodd y rheoleiddiwr eu bod wedi derbyn cyfanswm o 547 o gwynion am y rhaglen.

Wrth gyfiawnhau'r rhaglen, dywedodd GB News: "Pobl Prydain fydd yn penderfynu ar yr etholiad cyffredinol, nid newyddiadurwyr, nid rheoleiddwyr Ofcom, ond pobl gyffredin. Dyna pam y penderfynodd GB News gynnal Fforwm y Bobl gyda Rishi Sunak yn gynharach eleni, er mwyn rhoi cyfle i bobl herio a holi eu prif weinidog yn uniongyrchol."

Mae'r rheoleiddiwr wedi dod i'r casgliad i GB News dorri rheolau darlledu 12 gwaith ers i'r sianel ddechrau darlledu yn 2021. 

Mewn datganiad, dywedodd GB News: "Mae canfyddiad Ofcom yn erbyn GB News heddiw yn ddatblygiad pryderus yn eu hymdrech i'n tawelu drwy atal fforwm sy'n galluogi'r cyhoedd i gwestiynu gwleidyddion yn uniongyrchol.

"Mae bygythiad y rheoleiddiwr i gosbi sefydliad newyddion gyda sancsiynau, am ganiatáu pobl i herio eu Prif Weinidog yn taro wrth wraidd democratiaeth ar yr union adeg pan na allai hyn fod yn fwy hanfodol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.