Newyddion S4C

Y Prif Weinidog yn penodi aelod newydd i’w gabinet ar ôl diswyddo Hannah Blythyn

20/05/2024

Y Prif Weinidog yn penodi aelod newydd i’w gabinet ar ôl diswyddo Hannah Blythyn

Mis Mai ond mae ymhell o fod yn fis mel gwleidyddol iddo.

Wedi bron i ddwy flynedd a hanner, heddiw, ddaeth Plaid Cymru a'r cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ben.

Er roedd disgwyl i hynny digwydd eleni daeth y penderfyniad ar ôl sawl wythnos o bwysau ar y Prif Weinidog.

"Mae gynnon ni greisis ac argyfwng o gwmpas y Prif Weinidog... "..o gwmpas y £200,000 dderbyniodd o ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth.

"Be mae hynny'n dweud am ei grebwyll o fel Prif Weinidog?"

Dwy blaid oedd o blaid ei gilydd dros 46 o feysydd polisi.

Cydweithio yn lle clymbleidio oedd y nod.

Ond cysgod y rhodd o £200,000 i'w ymgyrch arweinyddol gan gwmni dyn sydd wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol oedd cymhelliad dileu'r cytundeb heddiw.

Ac fe ddaw wrth i'r Ceidwadwyr ddweud ei fod hi'n debygol y gallan nhw gyflwyno mesur o ddiffyg hyder ynddo.

"Ni'n siarad i bleidiau eraill... "..i sicrhau bod cefnogaeth yna i wneud hyn.

"Mae'n fwy pwysig bod Vaughan Gething yn dangos i bobl... "..bod e'n gallu cael hyder y Senedd a'i blaid ei hun."

Ddoe, yn annisgwyl, fe ddiswyddodd Mr Gething Hannah Blythyn y Gweinidog Dros Bartneriaeth Gymdeithasol o'i gabinet gan honni iddi ollwng gwybodaeth i'r wasg.

Rhywbeth mae hi'n ei gwadu.

Heddiw, dyma apwyntio Sarah Murphy i'r fainc flaen.

"I'm deeply uncomfortable in the way I'm being expected to endorse..."

O'r gwrthbleidiau i'r rheiny o fewn rhengoedd ei hun, mae 'na boeni. Mae tensiynau ymysg aelodau yn y Bae ond ymysg yr aelodaeth ar lawr gwlad mae 'na anfodlonrwydd.

Mae rhai aelodau wedi dweud heddiw eu bod nhw'n rhwystredig.

Rhai'n gandryll a rhai'n ystyried dileu eu haelodaeth o'r blaid a'u rheswm yw anfodlonrwydd gyda'r dyn sydd wrth y llyw.

Fel mae un oedd yn cefnogi Jeremy Miles yn y ras yn teimlo.

"Mae'n embaras i'r blaid ac i ni yng Nghymru... "..taw dyma'r drafodaeth cychwynnodd e wythnosau yn ôl... "..a ni dal yn trafod y peth.

"Dw i ddim yn credu byddai unrhyw un yn dymuno dal bod yn trafod hyn.

"Y neges i, a dw i'n hapus iawn i weud hwn... "..yw i fod yn dryloyw a bod yn barod i siarad... "..ac ateb y cwestiynau nes bod 'na ddim cwestiynau ar ôl i'w holi."

Dewch i ni siarad yn blaen. Ai'r unig ffordd o adfer y sefyllfa i'r Blaid Lafur yng Nghymru yw i Vaughan Gething gamu o'r neilltu?

"Dw i ddim yn credu dyna'r unig ffordd ond mae cyfle 'da fe."

Gwrthod gwneud sylw wnaeth Llafur Cymru heddi.

Dros y ffin mae'r Blaid i weld ymhell o sgandalau diweddar y Bae.

Ond pa effaith gaiff hynny ar flwyddyn etholiad?

"Mewn blwyddyn etholiad, bydd pwysau o'r Blaid Lafur yn Lloegr.

"Bydd e eisiau gweld Gething yn ymddiswyddo... "..yn hytrach na chael ei bleidleisio allan gan y Senedd."

A hithau'n wanwyn, deufis ers ei ethol yn Brif Weinidog Cymru... ..mae'n parhau'n aeaf garw gwleidyddol i Vaughan Gething.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.