Arlywydd Iran, Ebrahim Raisi, wedi marw yn dilyn damwain hofrennydd
Mae Arlywydd Iran, Ebrahim Raisi a'i weinidog tramor wedi marw mewn damwain hofrennydd, yn ôl teledu gwladwriaeth y wlad.
Roedd yr Arlywydd Raisi a Hossein Amir Abdollahian yn dychwelyd o daith i ffin Iran ag Azerbaijan ddydd Sul.
Yn ôl adroddiadau, roedd yr hofrennydd wedi “syrthio’n galed” i’r ddaear yn Varzaqan yn Nhalaith Dwyrain Azerbaijan.
Fe ddaeth achubwyr o hyd i safle’r ddamwain fore Llun, ac erbyn hynny roedd y ddau wedi bod ar goll am fwy na 12 awr.
"Cafodd hofrennydd yr Arlywydd Raisi ei losgi'n llwyr yn y ddamwain... yn anffodus, y pryder yw bod pob teithiwr wedi marw," meddai swyddog wrth yr asiantaeth newyddion Reuters.
Y gred yw bod gweinidog tramor Iran, Hossein Amirabdollahian, llywodraethwr talaith Dwyrain Azerbaijan a swyddogion eraill hefyd wedi bod ar fwrdd yr hofrennydd.
Nid yw achos y ddamwain yn glir eto, ond mae'r gweinidog mewnol, Ahmad Vahidi, wedi dweud mai "tywydd gwael a niwl" oedd yn gyfrifol.