Carcharu heddwas am wyth mlynedd am ddynladdiad cyn-bêldroediwr

Llys y Goron, Birmingham
Mae heddwas wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am ddynladdiad y cyn-chwaraewr pêl-droed, Dalian Atkinson.
Fe wnaeth Benjamin Monk ddefnyddio gwn Taser arno cyn ei gicio yn ei ben tra ei fod ar lawr.
Cafwyd yr heddwas yn ddieuog o lofruddio ond yn euog o ddynladdiad ar ôl i’r rheithgor yn Llys y Goron Birmingham glywed ei fod wedi defnyddio gwn Taser am 33 eiliad yn ystod y digwyddiad.
Clywodd y llys nad oedd wedi bod yn onest am yr hyn ddigwyddodd, gan honni ei fod wedi cicio Mr Atkinson unwaith yn unig a hynny yn ei ysgwydd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google