Cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad sgandal gwaed
Mae disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus, sydd wedi bod yn edrych ar un o sgandalau gwaethaf y Gwasanaeth Iechyd, gyhoeddi ei ganfyddiadau yn ddiweddarach.
Cafodd mwy na 30,000 o bobl HIV ac Hepatitis C ar ôl iddyn nhw gael gwaed neu drallwysiad gwaed oedd wedi ei heintio.
Mae tua 3,000 o bobl ym Mhrydain wedi marw ers derbyn y gwaed yn y 70au ac 80au.
Fe wnaeth yr ymchwiliad dderbyn tystiolaeth rhwng 2019 a 2023.
Mae disgwyl i’r cadeirydd, Syr Brian Langstaff, gyflwyno'r adroddiad ddydd Llun.