Newyddion S4C

Mwy nag erioed yn bwriadu cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni

20/05/2024
Bedwyr Fychan/Urdd

Mae mwy nag erioed o blant a phobl ifanc wedi cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni, meddai'r trefnwyr. 

Mae 100,454 wedi cofrestru i gystadlu yn yr ŵyl ym Maldwyn yr wythnos nesaf. 

Dyma'r tro cyntaf i'r ffigwr gyrraedd dros 100,000.

Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd eleni mae hynny’n “deimlad arbennig".

Mae Bedwyr Fychan yn cydnabod fod Maldwyn “yn sir fawr yn ddaearyddol."

Ond nid dyna yw’r prif reswm pam fod y mwyaf erioed o blant wedi cofrestru er mwyn cystadlu, meddai.

“Brwdfrydedd” trigolion lleol tuag at yr Eisteddfod yw’r rheswm meddai. 

“Mae’r awyrgylch a’r brwdfrydedd tuag at yr Eisteddfod wedi bod yn magu ac yn magu ac yn magu ers amser."

“Ym mis Gorffennaf llynedd es i ar daith feics efo Mr Urdd ac ychydig o’r criw rownd holl ysgolion y sir fel rhan o’r cyhoeddi, a ges i fy syfrdanu gyda’r brwdfrydedd oedd ym mhob rhan o’r sir. 

"Fuon ni ym mhob cornel o Faldwyn… ac roedd croeso ym mhob man.

“Di’r boblogaeth ddim mor fawr â hynny, sir wledig ydy hi. 

“Ond mae gwybod bod gymaint o blant a phobl ifanc y sir wedi cofrestru i gystadlu ac wedi neidio mewn i fod yn rhan o holl fwrlwm Eisteddfod yn deimlad arbennig i ni fel pwyllgor gwaith, fel trigolion lleol, ac i ni sydd wedi bod yn wrthi yn mwynhau yn bod yn rhan o’r paratoadau,"meddai wrth Newyddion S4C. 

Atgofion melys

Y tro diwethaf i Ŵyl Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal ym Maldwyn oedd 1988.

Dywedodd Bedwyr Fychan bod trigolion lleol yn barod i’r ŵyl dychwelyd i’w hardal, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio. 

“Mae 'na 36 mlynedd wedi bod ers i Eisteddfod yr Urdd fod ym Maldwyn dwytha’ a dwi meddwl bod y cyffro bod y ‘Steddfod nôl; mae’r bwrlwm ‘di bod yn magu," meddai.

“O ran daearyddiaeth y sir a demograffi’r sir, yr ardaloedd i’r gorllewin a gogledd y sir ‘di lle mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg – ond mae ‘na siaradwyr Cymraeg ym mhob rhan o’r sir. 

“Ond hefyd mae 'na ysgolion Cymraeg dwyieithog ac ysgolion Saesneg – maen nhw gyd ‘di bod eisiau bod yn rhan o hyn ac yn barod i gystadlu.”

Mae ganddo atgofion melys o’r Eisteddfod hwnnw yn 1988 ac mae'n edrych ymlaen at “gyflwyno’r ŵyl i genhedlaeth newydd o blant yma ym Maldwyn.”

“O’n i yn Eisteddfod hynny yn rhan o Basiant y Plant, yn cystadlu hefyd wrth gwrs, ond mae’r atgof o fod ar y llwyfan yn rhan o Basiant y Plant yn rhywbeth sydd yn sicr wedi aros yn y cof i fi," meddai.

'Paratoi'

Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Maldwyn wedi bod yn ei le ers sbel o achos oedi yn dilyn y cyfnod clo, esboniodd Mr Fychan. 

“Mae hyn ‘di cychwyn ers blynyddoedd mewn gwirionedd," meddai.

“‘Dy'n ni’n gwybod ers tua phum mlynedd bod y ‘Steddfod yn dŵad i Faldwyn ond wrth gwrs mae cyfnod Covid wedi dŵad yng nghanol hynny. Ond oedden ni ‘di sefydlu pwyllgorau testun tua pum mlynedd yn ôl.

“Mae di fod yn gyfnod hir ond mae’r paratoadau wedi bod yn mynd yn wych."

Ychwanegodd fod pawb yn lleol wedi tynnu at ei gilydd er mwyn sicrhau fod y gwaith paratoi wedi ei orffen cyn i’r cystadlu gychwyn ddydd Llun nesaf. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.