Newyddion S4C

Ail-danio ffrwd byw rhwng Efrog Newydd a Dulyn ar ôl ‘camymddwyn’

19/05/2024
Y Porthwll

Mae porth sy’n caniatáu i bobol yn Efrog Newydd a Dulyn weld ei gilydd drwy ffrwd byw wedi ei droi yn ôl ymlaen.

Fe fydd ar agor yn ystod rhai oriau o’r dydd yn unig ar ôl cwynion am bobol yn “camymddwyn” meddai Cyngor Dinas Dulyn.

Cafodd y porth ei osod yn O’Connell Street yng ngogledd Dulyn a Fifth Avenue yn Efrog Newydd.

Ar ôl i'r porth agor, roedd fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos rhai ar yr ochr Wyddelig yn dangos rhannau anweddus o'u cyrff, yn dangos rhegfeydd ar sgriniau ffôn ac yn dangos delweddau o'r ymosodiad terfysgol 9/11.

Mewn datganiad ddydd Sul dywedodd cwmni Portals.org bod y porth wedi ”ail-ddeffro”.

 “Ailgychwynnodd y llif byw heddiw am 9.00 yn Ninas Efrog Newydd a 14.00 yn Nulyn, ar ôl saib dros dro yn gynharach yr wythnos hon,” medden nhw.

“Bydd gan y porth oriau gweithredu penodol ar gyfer yr wythnosau nesaf gyda’r llif byw yn rhedeg bob dydd rhwng 6am a 4pm yn Ninas Efrog Newydd ac 11am i 9pm yn Nulyn.

“Mewn llai nag wythnos o weithredu, mae’r porth wedi denu degau o filoedd o ymwelwyr.

“Mae mwyafrif llethol y bobl sydd wedi ymweld â’r porth ar y ddwy ochr wedi profi’r ymdeimlad o lawenydd a chysylltiad y mae’r gweithiau celf cyhoeddus hyn yn eu creu.”

Llun gan Niall Carson / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.