Newyddion S4C

Yr Wyddgrug: Rhubydd i gadw draw o afon wedi ffrwydrad ffatri cemegau yn dod i ben

Tân ffatri cemegau yn Yr Wyddgrug

Mae pobl yn ardal yr Wyddgrug wedi cael gwybod bod lefelau llygredd afon yno bellach yn ddiogel yn dilyn ffrwydrad mewn ffatri cemegau ddiwedd mis Ebrill. 

Roedd swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi rhybuddio pobl i beidio â mynd i Afon Alun wedi’r ffrwydrad ar safle ffatri Synthite ar Ffordd Dinbych.

Cafwyd rhybudd hefyd i sicrhau bod anifeiliaid anwes a da byw yn cadw draw o’r dŵr wrth iddyn nhw gymryd y “camau angenrheidiol” i fynd i’r afael ag unrhyw lygredd yn y dŵr.

Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud nad oes angen cadw draw bellach wedi i lefelau llygredd y dŵr “ddisgyn yn sylweddol,” a’i fod o fewn “lefelau diogel”.

“Nid oes angen cadw anifeiliaid anwes neu dda byw draw o'r dŵr mwyach,” meddai Lyndsey Rawlinson o Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Dywedodd hefyd bod bywyd gwyllt bellach yn dychwelyd i’r ardal. 

“Mae gwaith monitro hefyd wedi dangos bod yr effaith ar fioamrywiaeth afon Alun wedi’i chyfyngu i’r darn o’r afon sy’n union gerllaw lle'r oedd y tân yn y ffatri ac mae pysgod bellach yn dychwelyd i’r ardal," meddai.

“Bydd y gwaith glanhau a’r cam adfer aml-asiantaeth yn parhau dros yr wythnosau nesaf a bydd ein swyddogion yn parhau â’r gwaith samplu dŵr arferol yn afon Alun,” meddai.

Roedd swyddogion CNC yn cydweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi’r ffrwydrad er mwyn monitro’r dŵr. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.