Newyddion S4C

Cyhuddo dyn 21 oed o lofruddiaeth dyn a fu farw yng Nghasnewydd

18/05/2024
Lee Crewe

Mae dyn 21 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i ddyn farw yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.

Bu farw Lee Crewe ar Heol Cas-gwent y ddinas ôl cael ei ddarganfod ag anafiadau difrifol.

Cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ac mae bellach wedi ei gyhuddo a’i gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd ar 20 Mai.

Dywedodd Heddlu Gwent nad oedden nhw’n edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth Lee Crewe.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Virginia Davies, yr uwch swyddog ymchwilio: “Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Lee Crewe ar hyn o bryd.

“Fel rhan o’n hymchwiliad, rydym am siarad ag unrhyw un a allai fod ag unrhyw wybodaeth neu fanylion a allai gynorthwyo ein hymchwiliad, yn enwedig os nad ydyn nhw wedi siarad â ni eto.

“Mae ein swyddogion yn aros yn yr ardal yn cynnal ymholiadau, os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth, a fyddech cystal â stopio a siarad â nhw.

“Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl nad yw o bwys, a allai fod o gymorth i’n hymchwiliad, ffoniwch 101 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ar gyfryngau cymdeithasol gan ddyfynnu 2400157385.”

Teyrnged

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Roedd Lee yn hyfryd...roedd ganddo bersonoliaeth heintus a oedd bob amser yn goleuo ystafell.

"Bydd gennym ni bob amser gwlwm na ellir ei dorri a bydd yn ein meddyliau am byth. Hyd nes y byddwn yn cwrdd eto â'n mab annwyl."

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â lluniau camera dashfwrdd, neu deledu cylch cyfyng, o Heol Cas-gwent, neu yn yr ardal o amgylch Merriott Place, rhwng 4.45pm a 7pm ddydd Mawrth 14 Mai, i gysylltu â nhw.

Mae’n bosib hefyd cysylltu â Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111 gydag unrhyw fanylion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.