Cyn ficer wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw yn y 1990au
Mae cyn ficer wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant yn dyddio’n ôl i ddiwedd y 1990au.
Roedd Ifor Whittaker, 80, yn ficer Anglicanaidd a oedd yn defnyddio’r enw Colin Pritchard pan ddigwyddodd y troseddau honedig yn erbyn bachgen ifanc.
Roedd yn gwasanaethu yn St John The Baptist Church yn Sedlescombe, Dwyrain Sussex, ar y pryd.
Mae Ifor Whittaker wedi’i gyhuddo o dreisio bachgen o dan 14 oed, ac o anwedduster difrifol ag o, a bydd yn ymddangos yn y llys ar Fehefin 10.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sussex: “Mae’r heddlu wedi cyhuddo cyn ficer Anglicanaidd o dreisio ac anwedduster difrifol gyda bachgen o dan 14 oed.
“Roedd Ifor Whittaker, 80, yn ficer o’r enw’r y Tad Colin Pritchard yn St John The Baptist Church yn Sedlescombe, Dwyrain Sussex, ar adeg y troseddau honedig.
“Mae adroddiadau bod y troseddau wedi digwydd yn ystod y 1990au hwyr pan oedd y dioddefwr – sydd bellach yn ddyn yn ei 30au – yn blentyn ifanc.
“Mae Whittaker wedi’i gadw yn y ddalfa ac fe fydd, i’w gadarnhau, yn ymddangos o flaen llys ar Fehefin 10.”