Gwyn Hughes Jones: Toriadau ariannol Opera Cenedlaethol Cymru yn ‘warthus’
Gwyn Hughes Jones: Toriadau ariannol Opera Cenedlaethol Cymru yn ‘warthus’
Yn cael ei gydnabod fel un o denoriaid gorau’i genhedlaeth, mae Gwyn Hughes Jones yn poeni bod y toriadau diweddaraf sy’n wynebu’r Opera Cenedlaethol yn fygythiad i enw da’r cwmni’n rhyngwladol.
Mae’r WNO yn dweud eu bod yn wynebu toriadu sylweddol ac felly’n gorfod newid y ffordd mae’n gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol ariannol sefydlog.
“Mae’r gallu i fedru cystadlu gyda chwmniau eraill dros y byd; mae pethau felly yn cael ei bygwth,” meddai Gwyn Hughes Jones, sy’n wreiddiol o Lanbedrgoch, Ynys Môn, ac sydd wedi perfformio yn nhai opera mwyaf nodedig y byd.
“Mae’n hynod o ddigalon. Mae o’n warthus o beth a deud y gwir.”
Mae’r Cwmni Opera Cenedlaethol nawr yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol i staff sydd ddim yn perfformio, tra bod yna drafodaethau yn parhau gydag undebau er mwyn ail-negodi cytundebau aelodau’r Corws a’r Gerddorfa.
Y bwriad meddai llefarydd ydy "cyflwyno model newydd i’r tymor 2025/2026 er mwyn cynnal ein gweithgaredd a’n dylanwad ar ac oddi ar y llwyfan, tra’n gweithio mor effeithlon ag sy’n bosib o fewn yr adnoddau sydd ar gael.”
'Mewn perygl'
Yn ôl Undebau sy’n cynrychioli’r cerddorion, mi allai cytundebau llawn amser gael eu torri i 45 wythnos y flwyddyn, gyda chyflogau yn gweld gostyngiad o thua 15%.
Yn sgil hynny, mae ‘na bryder na fydd modd i bawb sicrhau digon o waith er mwyn aros yng Nghymru. Ers dwy flynedd a hanner, mae Llinos Owen sy’n canu’r Basŵn wedi cael ei chyflogi gan y Cwmni Opera Cenedlaethol.
“Os ‘da chi’n cael eich torri o gyflog llawn amser, mae bron yn amhosib aros yng Nghymru a fod yn holol onest achos does ‘na ddim llawer o waith llawrydd yng Nghymru," meddai.
Yn ogystal a phryder am ei swydd, mae’n ofni y bydd gwaith cymunedol pwysig y cwmni hefyd yn cael effaith.
“Mae cerddorion o’r gerddorfa yn mynd i mewn i ysgolion anghenion arbennig. Da ni wedi bod yn neud prosiectau efo cleifion dementia ac mewn llefydd eraill gyda ffoaduriaid, ag wrth gwrs os da ni ddim yn mynd i lefydd fel Llandudno, mae’n gwaith ni o fewn y gymuned mewn perygl hefyd.”
'Arbedion'
Fe ddaw’r pwysau yma yng nghanol cyfnod economaidd anodd, gyda’r sefyllfa’n cael ei gwaethygu yn dilyn toriadau gan y prif ffynonellau ariannol i gyllid WNO.
Yn 2022 - roedd yna doriad o 35% i’w grant blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, gyda Chyngor y Celfyddydau yng Nghymru yn cyfrannu bron i 12% yn llai yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor y Celfyddydau Cymru; “Mae Opera Genedlaethol Cymru yn nodwedd bwysig o’r tirlun diwylliannol yng Nghymru ac yn ein Adolygiad Buddsoddi y llynedd, dyma’r cwmni a dderbyniodd y gefnogaeth ariannol fwyaf, sef bron i £4 miliwn o bunnau.
"Rydym ninnau yng Nghyngor y Celfyddydau hefyd wedi derbyn toriad o 10.5% eleni ac o’r herwydd, wedi gorfod gwneud arbedion a phenderfyniadau anodd.”
Ychwanegodd Cyngor Celfyddydau Lloegr bod “y WNO yn rhan bwysig o ecoleg opera ein gwlad ac oherwydd hynny, rydym yn buddsoddi dros £15.5 Miliwn yn y cmwni dros y tair blynedd nesaf am ei waith yn Lloegr".
'Anghyfrifol'
Dadlau y mae’r tenor Gwyn Hughes Jones bod angen i wleidyddion sylweddol gwerth y celfyddydau i gymdeithas, a buddsoddi dros gyfnod o ddegawdau.
“Pryd ‘da chi mewn sefyllfa pan mae yr hyn sydd yn tanseilio’r pethau yma i gyd oherwydd diffyg buddsoddiad a doffyg arian, yna ‘da chi’n sôn am dŷ sydd wedi adeiladu ar dywod… mae’n mynd i gael ei chwalu yn llwyr," meddai.
“Mae’r Llywodraeth wedi bod yn anghyfrifol tu hwnt nad ydyn nhw wedi sylweddoli bod y broses o newid y modd y mae diwylliant yn cael ei ariannu yn rhywbeth sydd angen buddsoddiad a gweledigaeth dros gyfnod o ddegawdau.
"Os oes angen esbonio rhywbeth mor syml a hynna i’n gwleidyddion, ryda ni mewn sefyllfa dybryd iawn.”
Wrth ymateb i'r pryderon sydd wedi eu lleisio am sefyllfa'r celfyddydau, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru "yn bwysig i'n cymdeithas a'n llesiant".
"Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anhygoel o anodd am fod eu cyllideb ar gyfer 2024-25 bellach werth £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod gan Lywodraeth y DU yn 2021," medden nhw.