Rhybudd taranau a glaw trwm ar gyfer rhannau o Gymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer taranau a glaw trwm ar gyfer rhannau o Gymru.
Bydd y rhybudd tywydd yn effeithio ar ganolbarth, gorllewin a de Cymru ac mewn grym rhwng 13.00 a 20.00 ddydd Sadwrn.
Gall cawodydd trwm araf a tharanau arwain at rywfaint o lifogydd ac aflonyddwch mewn mannau, medden nhw.
“Er na fydd llawer o leoedd yn gweld llawer o law, os o gwbl, gallai rhai lleoliadau weld 20-30 mm mewn awr neu ddwy,” meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Mae siawns fach y gallai ychydig o leoedd weld 40-50 mm. Bydd cawodydd a stormydd mellt a tharanau yn pylu'n raddol yn ystod nos Sadwrn.”
Mae’r rhybudd tywydd yn berthnasol i’r siroedd canlynol:
Blaenau Gwent
Pen-y-bont ar Ogwr
Caerffili
Caerdydd
Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Gwynedd
Merthyr Tudful
Sir Fynwy
Castell-nedd Port Talbot
Casnewydd
Powys
Rhondda Cynon Taf
Abertawe
Torfaen
Bro Morgannwg