Bron i 50 achos o gryptosporidiwm mewn tref ar ôl rhybudd dŵr tap
Mae bron i 50 achos o gryptosporidiwm mewn tref yn Lloegr wrth i drigolion yno dderbyn rhybudd i beidio â defnyddio eu dŵr tap heb ei ferwi a’i oeri yn gyntaf.
Mae tua 16,000 o gartrefi yn ardal Brixham yn Nyfnaint yn ne-orllewin Lloegr wedi derbyn rhybudd gan gwmni South West Water.
Dywedodd yr AS lleol, Y Ceidwadwr Anthony Mangnall, y byddai angen dal y cwmni dŵr i gyfrif am yr hyn oedd wedi digwydd.
“Mae wedi bod yn wythnos drychinebus ac mae pobl wedi eu cythruddo,” meddai.
“Y peth pwysig ar hyn o bryd yw cael y system yn ôl ar ei thraed, gwneud yn siŵr bod gan bobl hyder yn y rhwydwaith yn hytrach na phwyntio bysedd.
“Rydyn ni’n mynd i gynnal yr ymchwiliad wedyn ac fe fyddwn ni’n gwneud yn siŵr bod y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif.”
Dywedodd fod y cwmni dwr wedi bod yn rhy araf yn cydnabod bod unrhyw beth o’i le ac roedd hynny’n rhy hwyr i nifer o bobl oedd wedi mynd yn sâl.
Dywedodd South West Water eu bod nhw wedi dod o hyd i “olion” o’r parasit mewn dŵr yn ardal Alston a Hillhead tref Brixham.
Dywedodd Dr Lincoln Sargeant, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Torbay, fod yr halogiad cychwynnol wedi cael “ei drin fwy neu lai” ond y byddai pobl o bosib yn dal i ddatblygu symptomau am bythefnos arall.
Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4 ddydd Sadwrn fod y clefyd a gludir gan ddŵr yn “annifyr” ond y gallai fod yn beryglus i “bobl fregus sydd mewn perygl o gael salwch mwy difrifol”.
Llun gan Ben Birchall/PA.