Newyddion S4C

‘Rhwystredig’: Y cyn is-bostfeistr o Landudno Alan Bates yn gwrthod cynnig arall o iawndal

18/05/2024
Alan Bates

Mae’r cyn is-bostfeistr o Landudno Alan Bates wedi gwrthod cynnig arall o iawndal gan dweud wrth y BBC ei fod yn “rhwystredig” â’r cynigion.

Daw ei sylwadau wedi i gyfres deledu ITV, Mr Bates vs the Post Office, ddilyn ei frwydr bersonol i fynd at wraidd cannoedd o gyhuddiadau o ladrata yn erbyn is-bostfeistri ledled y DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu talu “iawndal llawn a theg” i’r rhai sydd wedi dioddef yn sgil sgandal technoleg Horizon. 

Gwrthododd Mr Bates gynnig “gwarthus” gan y Llywodraeth yn gynharach eleni, a oedd, meddai, yn 1/6 yr hyn oedd yn ddyledus iddo.

Ar y pryd, dywedodd Downing Street fod yr ymgyrchydd yn “haeddu’r lefel gywir o iawndal” am yr hyn oedd wedi digwydd iddo.

Ond dywedodd Mr Bates wrth y BBC: “Mae’n rhwystredig i mi fy hun, yn rhwystredig i bawb.”

“Nid yw’n gweithio’n ddigon cyflym,” meddai gan ddweud bod 300 achos heb eu datrys.

“Mae pobl wedi colli 20 mlynedd o’u bywydau ac maen nhw’n dal i ddal ati, rydyn ni hefyd wedi colli 70 o bobl ar hyd y ffordd.

“Mae’r oedi yma yn achosi pob math o broblemau i’r teuluoedd dan sylw.”

Ychwanegodd Mr Bates y gallai fod yn rhaid iddo “edrych ar ffyrdd eraill o symud ymlaen â’r iawndal”.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Busnes a Masnach: “Rydym yn clodfori ymgyrch anhygoel Alan a’i benderfynoldeb wrth sicrhau cyfiawnder i’r miloedd o bostfeistri diniwed yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal hwn.

“Rydym eisoes wedi talu £202 miliwn i bostfeistri ar draws y tri chynllun iawndal ac fel gydag unrhyw gynnig, os yw hawlwyr yn anhapus gellir datrys eu hachosion gan banel annibynnol, sy’n cynnwys arbenigwyr cyfreithiol, meddygol, manwerthu a chyfrifeg, er mwyn sicrhau bod cyfanswm teg yn cael ei gynnig ar sail y dystiolaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.