Newyddion S4C

Girls Aloud yn cofio am Sarah Harding ar noson gyntaf eu taith aduniad

18/05/2024
Girls Aloud

Fe wnaeth y grŵp pop poblogaidd Girls Aloud ddychwelyd i’r llwyfan am y tro cyntaf ers dros ddegawd nos Wener, gan roi teyrnged i’r diweddar Sarah Harding. 

Roedd Nadine Coyle, Cheryl, Nicola Roberts a Kimberley Walsh wedi dychwelyd i’r llwyfan fel rhan o’u taith aduniad gan gofio am eu cyn-aelod, Harding, a fu farw o ganser fis Medi 2021 yn 39 oed. 

Yn ystod eu sioe agoriadol yn Nulyn, fe wnaeth y pedwar aelod berfformio deuawd gyda recordiad o lais Sarah Harding gan ganu’r cân I’ll Stand By You

Roedd Girls Aloud hefyd wedi perfformio un o’u caneuon mwyaf poblogaidd, The Promise, cyn troi i wylio Harding yn perfformio’r gân ar ei phen ei hun ar sgrin fawr y tu ôl iddynt. 

Y tro diwethaf i’r grŵp pop berfformio oedd yn ystod taith yn 2012 i nodi 10 blynedd ers iddyn nhw ffurfio. 

Roedden nhw wedi cynllunio i wneud ail daith ar gyfer eu pen-blwydd yn 20 oed, pan gafodd Sarah Harding ei diagnosis o ganser. 

Roedd y grŵp wedi dychwelyd i’r llwyfan 30 munud yn hwyr nos Wener yn y 3Arena, a hynny oherwydd i rai ffyrdd fod ar gau yn ninas Dulyn. 

Lluniau: Girls Aloud (X), Sarah Harding (Ian West/PA Wire)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.