Newyddion S4C

Toriadau i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru

17/05/2024

Toriadau i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru

Mae e'n cael ei gydnabod fel un o denoriaid gorau ei genhedlaeth.

"Mae safon cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn rhywbeth sydd wedi cael ei ddathlu."

Ar ôl brolio safon cwmni Opera Cenedlaethol ei wlad dros y byd mae'r cylch diweddaraf o doriadau, meddai, yn brifo.

"Mae'r gallu i fedru cystadlu efo cwmniau eraill dros y byd mae pethau felly yn cael eu bygwth.

"Mae o'n hynod o ddigalon, mae o'n warthus o beth, a deud y gwir.

"Ond pan dach chi mewn sefyllfa pan mai'r hyn sydd yn tanseilio'r pethau 'na i gyd yn cael eu colli oherwydd diffyg buddsoddiad a diffyg arian yna, dach chi'n son am dŷ wedi ei adeiladu ar dywod, ynde.

"Mae o'n mynd i gael ei chwalu yn llwyr."

Un o gynyrchiadau diweddar y Cwmni Opera Cenedlaethol sydd nawr, yn ôl llefarydd, yn wynebu toriadau sylweddol.

Yn 2022, roedd yna doriad o 35% i'w grant blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr gyda Chyngor y Celfyddydau yng Nghymru yn cyfrannu bron i 12% yn llai yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru wedi dweud wrtha i bod yn rhaid iddyn nhw nawr gyflwyno newidiadau er mwyn sicrhau dyfodol ariannol sefydlog.

Yn sgil y toriadau mae yna ffenest wedi agor er mwyn cynnig diswyddiadau gwirfoddol i aelodau staff sydd ddim yn perfformio.

Maen nhw hefyd mewn trafodaethau gydag undebau er mwyn ail-drafod cytundebau aelodau'r corws a'r gerddorfa.

Yn ôl yr undebau sy'n cynrychioli cerddorion y cwmni mae'r aelodau yn wynebu colli tua 15% o'u cyflogau gyda chytundebau llawn amser yn cael eu cwtogi
i ryw 45 wythnos y flwyddyn.

"Os dach chi'n cael eich torri o gyflog llawn amser mae hi bron yn amhosib aros yng Nghymru, i fod yn hollol onest achos does yna'm lot o waith llawrydd yng Nghymru."

Wedi bod yn gyflogedig llawn amser ers dwy flynedd a hanner mae Llinos yn poeni nawr y bydd yn rhaid iddi adael Cymru i gael gwaith.

Ar ben hynny, mae hi'n tristau na fydd modd i waith cymunedol y cwmni barhau.

"Er enghraifft, mae cerddorion o'r gerddorfa yn mynd i fewn i ysgolion anghenion arbennig.

"'Dan ni 'di bod yn gwneud prosiectau efo cleifion dementia.

"'Dan ni'n gwneud prosiectau mewn llefydd eraill efo ffoaduriaid.

"Wrth gwrs, os 'dan ni ddim yn mynd i'r lleoliadau yma mae ein gwaith ni yn y gymuned mewn perygl hefyd."

Brwydro yn erbyn yr ergyd yw'r bwriad nawr gyda bron i 10,000 o lofnodion bellach ar ddeiseb ar-lein a datganiad yn tanlinellu'r argyfwng wedi ei drefnu
gan y gantores opera yma 'di denu cefnogaeth enwogion o Michael Sheen i Ruth Jones.

"So, I'm asking Westminster and our politicians here in Welsh Government to put their heads together to say - yes, we can work collaboratively.

"We can cooperate with each other and we can see the greater good.

"Have a conversation and act before it is too late because it will be."

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd, cofiwch wedi colli 10.5% o'i gyllideb gan Lywodraeth Cymru ac felly, meddai wedi gorfod gwneud arbedion a phenderfyniadau anodd.

Tra bod Cyngor Celfyddydau Lloegr yn dweud mai'r bwriad yw buddsoddi dros £15 miliwn yn WNO dros y dair blynedd nesaf am waith y cwmni yn Lloegr.

Mae hyn yn dod yr un pryd a bod yr adran iau yn y Coleg Cerdd a Drama yn cael ei dorri.

Dw i jyst yn teimlo bod 'dan ni'n gadael ryw fath o anialwch celfyddydol yng Nghaerdydd lle mae cerddoriaeth glasurol yn y cwestiwn.

Mae disgwyl protest wrth risiau'r Senedd ddydd Mawrth wrth i gerddorion Cymru geisio sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.