Newyddion S4C

Ymateb 'gwych' i fenter newydd i ddenu teuluoedd i eglwysi

19/05/2024

Ymateb 'gwych' i fenter newydd i ddenu teuluoedd i eglwysi

Mae capeli ac eglwysi yng Nghymru yn ceisio denu mwy o deuluoedd trwy Llan Llanast, menter sydd yn cyflwyno crefydd i deuluoedd drwy weithgareddau i blant ac oedolion.

Yn ôl Aled Davies, sy'n weinidog yng ngogledd Cymru ac yn gweithio gyda Chyngor Ysgolion Sul, mae dros 100 o gapeli ac eglwysi ar draws Cymru yn cynnal y sesiynau yn Saesneg, a tua 30 yn y Gymraeg.

Ef sydd wedi cyfieithu'r deunydd i'r Gymraeg, a gafodd ei greu yn wreiddiol gan Lucy Moore dan yr enw Messy Church.

Un capel sydd wedi dechrau'r fenter yn y Gymraeg yw Capel y Graig yng Nghastell Newydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin.

Dechreuodd sesiynau gael eu cynnal ar ddiwrnodau pwysig o fewn y calendr Cristnogaeth fel y Nadolig a'r Pasg, ond bellach mae gweinidog y capel, Sian Elin Thomas wedi dechrau cynnal sesiynau yn gyson ar ôl y diwrnod ysgol.

Image
Sian Elin Thomas
Mae sesiynau Llan Llanast yn cael eu cynnal yn y Gymraeg yn festri Capel y Graig, Castell Newydd Emlyn

"Y'n ni fel criw wedi dechrau gwneud Agor y Llyfr bob dydd Llun, so ni'n mynd rownd ysgolion lleol yn Castell Newy', Y Ddwylan a Penboyr ac yn y blaen," meddai wrth Newyddion S4C.

"Felly o'n i'n teimlo bod yr amser yn iawn falle, ma' perthynas ‘di creu gyda'r ysgolion a'r plant, felly i gwahodd nhw mewn i'r eglwys wedyn neu'r capel am rywbeth bach gwahanol. 

"Ni'n gwneud gweithgareddau celf a chrefft, y'n ni yn neud coginio pethe a mae'n clymu mewn gyda un stori penodol a stori ar hyn o bryd yw hanes y Pentecost."

I'r Gweinidog Sian Elin Thomas a'r tîm sydd yn trefnu'r digwyddiad, mae gweld gymaint o blant yn cymryd rhan yn hwb.

"Ma'r ymateb 'di bod yn fabulous, ma' rhaid fi 'weud. Fi mor falch shwt ma' pethau 'di mynd," meddai.

"Ma'r plant yn mwynhau, ma'r rhieni hyd yn oed yn mwynhau, ma'r rhieni yn lliwo a popeth, felly ma'r ymateb 'di bod yn wych. 

"A ma' llond festri o blant 'da ni so mae'n arbennig."

'Cymdeithas gyda'i gilydd'

Mae pedair elfen i Llan Llanast, sef croeso, crefft, dathliad a bwyd.

Gyda'i gilydd mae'r rhain yn croesawu pobl i'r capel neu eglwys, sicrhau bod digon o grefftau ar gael i blant, adrodd stori sy'n gysylltiedig gyda'r grefft ac wedyn mwynhau tamaid i fwyta.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Aled Davies mai un o'r pethau pwysicaf yw bod pawb yn gallu dod i adnabod ei gilydd.

"Mi oedd na draddodiad falle mewn capeli, plant yn cyrraedd efo rhieni, plant yn cael eu gyrru trwodd i’r festri i neud’ gwaith ysgol Sul, a’r oedolion yn aros ben eu hunan," meddai.

"Mae’r elfen lletygarwch... pawb yn byta’ gyda’i gilydd o gwmpas’ y bwrdd ac yn cymdeithasu, sy’n fodel mor feiblaidd wrth gwrs yndofe? Fel oedd yr eglwysi cynnar yn eu neud. 

"O nhw ddim jyst yn cyfarfod i gael oedfa, mi o nhw’n cyfarfod er mwyn cael cymdetihas 'da’i gilydd o gwmpas. 

"Ma hwnna 'di bod yn elfen pwysig iawn o Llan Llanast achos yn fan na’ ma perthynas rhwng pobl yn cael ei creu, yn hytrach na pobl jyst yn cyrraedd, gwrando a mynd ynde? 

"Ma nhw yn cal cymdeithasu a dod i nabod eu gilydd. A ma hwnna 'di bod yn un o rhinwedde’ sy’n perthyn i Llan Llanast sy’ 'di bod yn llwyddiant."

'Celf a chrefft a bod gyda ffrindiau'

Mae rhai disgyblion Ysgol y Ddwylan wrth eu boddau yn dod i sesiynau a chymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol.

Mae George a Laine yn mwynhau bod gyda'u ffrindiau yn bennaf.

"Mae’n hwyl a ma fe’n neis i dod yma. Fi'n hoffi neud pethau neis a chwarae a gwneud crefftau," meddai George.

Ychwanegodd Laine: "Fi'n lico bod gyda ffrindiau a gwneud y bwyd. Fi'n rhoi smarties arnyn nhw."

Image
George a Laine
Mae George a Laine, disgyblion yn Ysgol y Ddwylan yn mwynhau dod i Llan Llanast


Un sydd wedi dod â’i hwyrion, Gruff, Gwenlli, Elain a Iago i Llan Llanast yw Lynne Harries.

Dywedodd wrth Newyddion S4C bod y gweithgareddau yn ffordd dda i helpu'r plant dod yn gyfarwydd â Christnogaeth.

"Roeddwn i wedi siarad â Sian Elin, dipyn o ffrindiau efo hi, a wedyn nath hi sôn am y Llan Llanast 'ma, a wedais i 'o syniad da' i ddod â'r wyrion achos fel mae'n digwydd dwi'n casglu'r wyrion o'r ysgol ar ddydd Mercher, a felly dod 'ma yn hytrach a mynd gytre â nhw," meddai.

"Ma' nhw wrth eu bodd, ma' digon o amrywiaeth o bethau 'ma a ma' nhw wrthi yn mynd rownd y byrddau yn eu tro a ma' nhw'n cael hwyl arni. 

"Ma' jyst naws ac awyrgylch y lle, a'r syniad bod nhw'n cael dod i festri i ddechrau nhw, i gyfarwyddo falle pe tase 'na ysgol Sul neu rywbeth yn datblygu o'r sefyllfa yma."

'Mwy o sesiynau'

Wedi'r ymateb cadarnhaol, mae Sian Elin Thomas eisiau cynnal y sesiynau yn amlach yn y gobaith o ddenu teuluoedd i'r capel ar dydd Sul.

"Gobeithio bydd y Llan Llanast yn parhau, mwy o sesiynau a hefyd wedyn, bwrw hyn i mewn i ddydd Sul falle wedyn, a creu Llan Llanast ar ddydd Sul a cael y plant mewn i'r capel ar ddydd Sul wedyn, a dod yn rhan o cymdeithas yr eglwys a'r capel," meddai.

Yr hyn mae Aled Davies wedi gweld yw bod capeli ac eglwysi yn dechrau cynnal sesiynau Llan Llanast yn y Gymraeg ar ôl gweld sesiynau eraill yn cael eu cynnal.

"Beth sy’n digwydd pan mae unrhyw beth newydd, chymod falle bod chi’n sôn wan am Gastell Newydd Emlyn, mi roedd Llandysul wedi gwneud hi falle blwyddyn yn ôl a ma bobl yn dod i glywed ac i gweld," meddai.

"A da’ ni’n ffeindio’r domino effect mewn ffordd. Pan ma' rhywun yn clywed am rhywbeth sy’n gweithio, y cam naturiol nesaf wedyn yw ma’ rhywun arall lawr y ffordd yn meddwl 'o mi dreiwn’ ni hwnnw felly'."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.