Galw am fwy o wirfoddolwyr i linell gymorth Gymraeg wrth i Samariaid Bangor droi yn 40
Mae cangen Samariaid Cymru yn galw am ragor o wirfoddolwyr er mwyn ymestyn oriau eu llinell gymorth Gymraeg.
Fe wnaeth Samariaid Gogledd Orllewin Cymru, sydd wedi ei leoli ym Mangor, sefydlu'r llinell gymorth Gymraeg yn 2010.
Ar hyn o bryd, mae'r llinell gymorth Gymraeg ar agor rhwng 19:00 a 23:00 bob dydd ac mae’n rhad ac am ddim i’w ffonio.
Ond y bwriad yw ymestyn yr oriau fel bod y gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Daw’r alwad wrth i Samariaid Gogledd Orllewin Cymru nodi 40 o flynyddoedd ers ei sefydlu.
Ers 1984 mae’r gangen yn dweud ei bod wedi ateb dros dri chwarter miliwn o alwadau.
Mae'r llinell gymorth Saesneg eisoes ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
‘Blaenoriaeth’
Yn ôl Tudur Williams, sydd wedi bod yn gwirfoddoli i’r gangen am 39 o flynyddoedd, mae ymestyn oriau’r llinell gymorth Cymraeg yn “flaenoriaeth” – a hynny oherwydd bod yr elusen yn pwysleisio pwysigrwydd gallu siarad yn y famiaith.
“Dydy pobl ddim yn gallu trafod teimladau emosiynol yn eu hail iaith,” meddai Mr Williams.
Mae’r llinell gymorth Cymraeg yn ateb 1,000 o alwadau'r flwyddyn.
Ond mae cael gwirfoddolwyr, yn enwedig rhai sy’n siarad Cymraeg, yn “fwy anodd nag oedd hi ers talwm” meddai.
Ar hyn o bryd, mae gan y gangen 91 o wirfoddolwyr o wahanol gefndiroedd rhwng 19 a 93 oed.
Er mwyn ymestyn yr oriau, bydd angen hyd at 125 o wirfoddolwyr meddai.
Ers ei sefydlu yn 1953, mae'r Samariaid wedi ateb tair miliwn o alwadau, sy'n gyfystyr ag un alwad bob 10 eiliad.
Yng Nghymru, mae yna naw cangen ar draws y wlad gyda 600 o wirfoddolwyr.
Gweledigaeth yr elusen yw bod llai o bobl yn marw trwy hunanladdiad.
Mae'r elusen yn gweithio gyda phobl i greu lle diogel lle gallan nhw siarad am sut maen nhw’n teimlo, a’u helpu i ddod o hyd i’w ffordd eu hunain ymlaen.
'Galw yn cynyddu'
Yn gyffredinol, mae’r galw am wasanaeth y Samariaid yn “cynyddu o flwyddyn i flwyddyn”.
“Ar adegau, dydy’r Samariaid ddim yn gallu ateb yr holl alwadau - yn enwedig yn ganol y nos,” meddai Mr Williams.
“Ac weithiau mae pobl yn gorfod aros achos does yna ddim digon o wirfoddolwyr.”
Ychwanegodd Mr Williams bod y galw wedi cynyddu fwy fyth ers y cyfnodau clo.
“Mae ‘na lot mwy o broblemau iechyd meddwl a dydy gwasanaethau fel y GIG ddim yn gallu dygymod efo’r galw.”
Yn ôl y GIG, roedd 356 o bobl wedi cymryd eu bywydau yng Nghymru y llynedd.
“Mae’r broblem yn real iawn,” meddai Mr Williams. “Ac wrth gwrs: dynion. Mae tri chwarter o hunanladdiadau yn ddynion.”
Oherwydd hynny, mae'r Samariaid yn ceisio targedu dynion wrth ymweld â meysydd pêl-droed a chriced.
“Mae dynion yn fwy tebygol o siarad am eu teimladau nag oedden nhw, ond mae’r ystadegau dal yn uchel,” meddai.
Yn y 40 mlynedd nesaf, mae gan Mr Williams un dymuniad: “Bod nifer y bobl sy’n cymryd eu bywydau yn mynd i lawr.”
Bydd Samariaid Gogledd Orllewin Cymru yn dathlu 40 o flynyddoedd ers ei sefydlu gyda lansiad y llyfr 40 Mlynedd o Wrando gan Tudur Williams.
Llun: Criw o wirfoddolwyr y Samariaid ar ymweliad allgymorth yng Nghaergybi yn y 1990au