Newyddion S4C

Athrawes yn euog o gael rhyw gyda dau fachgen ysgol

17/05/2024
Rebecca Joynes

Mae athrawes wedi ei chael yn euog o gael rhyw gyda dau fachgen ysgol.

Roedd Rebecca Joynes, 30, wedi cymryd mantais o'r bechgyn o pan oeddynt yn 15 oed, ac roedd ar fechnïaeth am weithredoedd rhyw gyda'r plentyn cyntaf, Bachgen A, pan ddechreuodd gael rhyw gyda'r ail blentyn, Bachgen B.

Clywodd Llys y Goron Manceinion bod Joynes yn feichiog ar ôl cael cyfathrach gyda Bachgen B.

Fe gafwyd yr athrawes yn euog o chwe chyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol â phlentyn, yn cynnwys dau pan oedd yn berson mewn safle o ymddiriedaeth.

Wrth i'r dedfrydau euog gael eu cyhoeddi, dechreuodd Rebecca Joynes ysgwyd wrth sefyll yn y doc ar ddiwedd achos oedd wedi para am bythefnos.

Ni chafwyd unrhyw ymateb gan ei rhieni yng ngaleri'r cyhoedd, ond daeth bloedd dawel o gyfeiriad rhieni'r bechgyn.

Diolchodd y Barnwr aelodau'r rheithgor gan ychwanegu y byddai angen adroddiadau ar y diffynydd cyn cyhoeddi'r ddedfryd ym mis Gorffennaf.

Cafodd Joynes ei rhyddhau ar fechnïaeth ond fe gafodd rybudd gan y barnwr: "Mae babi yn yr achos yma sydd heb wneud dim o'i le ac yn gwbl ddiniwed o unrhyw gam ac fe fyddwch yn amlwg am ei gweld cyn y ddedfryd, rwyf yn deall hynny.

"Ond mae'n rhaid i chi sylweddoli'n llawn beth fydd yn digwydd ar Orffennaf y pedwerydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.