Llofruddiaeth Casnewydd: Teyrnged teulu i ddyn 'hyfryd'
Mae teulu dyn o Gasnewydd a fu farw ddydd Mawrth wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Heol Cas-gwent yn y ddinas am tua 18:00 ar y diwrnod ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod ag anafiadau difrifol.
Cadarnhaodd swyddogion ambiwlans fod y dyn, Lee Crewe, wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae dyn lleol 21 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.
Mae teulu Mr Crewe yn derbyn cymorth gan swyddogion arbennigol.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Roedd Lee yn hyfryd...roedd ganddo bersonoliaeth heintus a oedd bob amser yn goleuo ystafell.
"Bydd gennym ni bob amser gwlwm na ellir ei dorri a bydd yn ein meddyliau am byth. Hyd nes y byddwn yn cwrdd eto â'n mab annwyl."
Nid yw'r heddlu'n chwilio am neb arall mewn cysylltiad a'i farwolaeth.
Mae eu hymchwiliad yn parhau.