Newyddion S4C

Plaid Cymru yn dod â’u cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i ben

17/05/2024

Plaid Cymru yn dod â’u cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i ben

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n dod â’u cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn y Senedd i ben.

Mewn datganiad dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth bod penderfyniad y Prif Weinidog i dderbyn £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol "yn dangos methiant sylweddol o farn".

Dywedodd y Prif Weinidog Vaughan Gething ei fod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad.

Roedd disgwyl i'r cytundeb barhau am saith mis arall cyn dod i ben flwyddyn cyn etholiadau nesaf y Senedd yn 2026.

“Mae Plaid Cymru wedi dod a’r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ben ar unwaith," meddai Rhun ap Iorwerth.

“Rwy’n falch o sut ddangosodd y Cytundeb bod math newydd o wleidyddiaeth yn bosibl gan ganolbwyntio ar feysydd polisi sy’n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl.

“Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, ehangu’r cynnig gofal plant am ddim i filoedd yn fwy o deuluoedd, cymryd camau radical i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, camau i ddiogelu’r Gymraeg, creu cwmni ynni cenedlaethol Ynni Cymru a mwy. 

"Roedd gweithio ar y cyd yn ymateb adeiladol i anhrefn ac ansicrwydd Brexit a’r pandemig Covid, a’r niwed a achosir gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Byddwn yn parhau i geisio sicrhau bod polisïau y cytunwyd arnynt fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio yn cael eu cyflawni."

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth: “Ar yr un pryd, ers dod yn Arweinydd, rydw i wedi bod yn benderfynol o ddwyn Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif yn gadarn. 

"Rwy’n parhau i fod yn bryderus iawn bod y Prif Weinidog wedi methu ag ad-dalu’r rhodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, a chredaf ei fod yn dangos methiant sylweddol o farn. 

"Mae’r arian dros ben bellach wedi ei drosglwyddo i Blaid Lafur Keir Starmer. Mae’r amgylchiadau sy’n ymwneud â’r penderfyniad i ddiswyddo aelod o’r Llywodraeth yr wythnos hon - ynglŷn â materion a ddylai fod yn gyhoeddus eisoes - yn peri cryn ofid i mi.

“Rwyf hefyd yn bryderus ynghylch am y ffordd mae’r Llywodraeth yn ymagweddu mewn perthynas â rhai elfennau o’r Cytundeb Cydweithio, gan gynnwys y penderfyniad i ohirio gweithredu i gefnogi’r teuluoedd tlotaf yn ein cymunedau, fel y dangoswyd yn fwyaf diweddar yn y penderfyniad i ohirio diwygio’r dreth cyngor."

Image
Vaughan Gething
Y Prif Weinidog, Vaughan Gething

'Siomedig'

Wrth ymateb dywedodd Vaughan Gething bod y cytundeb cydweithredu "yn ymwneud â gwleidyddiaeth aeddfed" gan gydweithio ar feysydd yr oedd Plaid Cymru a Llafur yn cytuno arnynt.

"Er fod gan bob cytundeb derfyn amser, rydym yn siomedig bod Plaid Cymru wedi penderfynu cerdded i ffwrdd o’u cyfle i gyflawni dros bobl Cymru. 

“Hoffwn ddiolch i Sian Gwenllian a Cefin Campbell am eu gwaith drwy gydol y cytundeb. Drwy gydweithio rydym wedi cyflawni llawer iawn, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd, darparu mwy o ofal plant am ddim, cyflwyno pecyn radical o fesurau i greu cymunedau lleol ffyniannus, helpu pobl i fyw’n lleol a mynd i’r afael â niferoedd uchel o ail gartrefi mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru. 

“Byddwn nawr yn edrych yn fanwl ar sut y gallwn symud ymlaen ag ymrwymiadau’r cytundeb cydweithredu sy’n weddill, gan gynnwys Bil Addysg y Gymraeg a’r Papur Gwyn ar yr Hawl i Dai Digonol a Rhenti Teg.”

'Yn y fantol'

Dywedodd Dafydd Williams, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, eu bod nhw'n pryderu am ddyfodol ymrwymiadau oedd yn y cytundeb yn ymwneud â’r Gymraeg.

“Yn dilyn cwymp y Cytundeb Cydweithio, galwn ar Lywodraeth Cymru i ddatgan eu bwriad i gadw at ymrwymiadau polisi sy’n ymwneud â'r Gymraeg a phrofi bod dyfodol yr iaith a’n cymunedau wrth wraidd ei gweledigaeth," meddai. 

"Mae datblygiadau allweddol mewn sawl maes polisi sy'n effeithio ar y Gymraeg yn y fantol, ond disgwyliwn i’r rhain gael eu cyflawni mor bellgyrhaeddol â’r hyn oedd wedi ei addo yn y Cytundeb Cydweithio, os nad yn fwy.

“Byddwn ni'n disgwyl i'r Bil Addysg Gymraeg ddarparu addysg Gymraeg i bob disgybl, i’r Papur Gwyn ar Dai leddfu'r argyfwng tai mewn cymunedau Cymraeg a chynnwys mesurau radical fyddai’n mynd at wraidd niwed y farchnad dai agored, ac i'r Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru gael ei sefydlu yn fuan. Does dim rhaid i Lywodraeth Cymru ddibynnu ar gytundeb gyda phleidiau eraill er mwyn cyflawni dros Gymru.”

Image
Mark Drakeford ac Adam Price
Mark Drakeford ac Adam Price

Cefndir y cytundeb

Cafodd y cytundeb cydweithio ei arwyddo gan arweinyddion blaenorol y ddwy blaid, Adam Price a Mark Drakeford, ym mis Rhagfyr 2021.

Nid oedd yn glymblaid ffurfiol, ond roedd yn golygu bod Llafur a Phlaid Cymru yn cydweithio mewn rhai meysydd polisi.

Roedd y cytundeb yn cwmpasu 46 o feysydd, gan gynnwys darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd a ehangu y Senedd o 60 i 96 aelod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.