Newyddion S4C

Iechyd meddwl: Bardd Plant Cymru am i bobl ifanc wybod nad ydyn nhw 'ar eu pennau eu hunain'

19/05/2024

Iechyd meddwl: Bardd Plant Cymru am i bobl ifanc wybod nad ydyn nhw 'ar eu pennau eu hunain'

Wrth i wythnos codi ymwybyddiaeth iechyd meddwl ddirwyn i ben, mae Bardd Plant Cymru eisiau i bobl ifanc wybod nad ydyn nhw “ar eu pennau eu hunain” os ydyn nhw'n dioddef.

A hithau’n byw gyda gorbryder, dywedodd Nia Morais nad oedd teimlo ei bod hi'n “ddigon Cymraeg” yn her iddi yn ystod ei magwraeth a bod hynny wedi cyfrannu i’w phroblemau iechyd meddwl yn y gorffennol. 

Er iddi ac aelodau eraill o’i theulu cael eu haddysg drwy’r Gymraeg, Saesneg oedd iaith y cartref. 

Dywedodd ei bod wedi dioddef â diffyg hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o hynny, a’i bod yn “ofn” ysgrifennu yn ei mamiaith ar un cyfnod. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Mae brodyr a chwiorydd fi bron i gyd wedi mynd i ysgolion Cymraeg ond o’n ni ddim yn siarad Cymraeg adre’ lot fawr.

“Felly fi’n credu ‘odd gen i bach o ddiffyg hyder yn siarad Cymraeg, yn enwedig ‘sgwennu yn Gymraeg – o gwybod bod gyda ni traddodiad mor hir ac mor wych o ysgrifennu a barddoni yn Gymraeg. 

“’O'dd hwnna bach yn rhoi ofn i fi bron i ddechra’ ond dwi jyst yn trio cofio bod fi’n bod yn greadigol, bo’ fi gallu chwarae gyda’r Gymraeg a chwarae gyda geiriau,” meddai.

Image
Nia Morais

'Agored'

Ar drothwy blwyddyn ers iddi gael ei phenodi’n Fardd Plant Cymru, mae’n awyddus i fagu hyder plant sy’n dod o deuluoedd di-Gymraeg, a chefnogi’r rheiny sy’n wynebu heriau iechyd meddwl. 

Mae siarad am iechyd meddwl yn hollbwysig iddi, meddai, ac mae am sicrhau bod plant sy’n dioddef yn ymwybodol fod pobl eraill yn teimlo’r un fath ar adegau hefyd.

“Fi’n rhywun sy’n delio gyda gorbryder weithiau, sydd yn gallu bod yn eithaf anodd i ddelio gyda, yn enwedig pan mae’n dod i waith; pan mae’n dod i ‘neud ffrindiau newydd a phethau fel ‘na," meddai.

“Felly ‘odd e’n rili bwysig yn mynd mewn i’r swydd yma i siarad am hwnna ac i fod yn agored am hwnna a dangos bod chi ddim ar ben eich hun os chi’n teimlo fel hyn hefyd."

Image
Nia Morais
Nia Morais wedi iddi gael ei phenodi'n Fardd Plant Cymru y llynedd

'Cynrychiolaeth'

Fe gafodd Nia Morais ei phenodi’n Fardd Plant Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri fis Mehefin y llynedd, gan olynu Casi Wyn yn y rôl. 

A hithau’n ddramodydd yn ogystal ag awdur, dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at flwyddyn “prysur” arall yn ymweld ag ysgolion gan annog plant i gael “hwyl” gyda’r iaith a’i pherchnogi. 

“Nhw sy’n bia’r iaith Gymraeg, nhw sy’n gallu ‘neud be’ bynnag maen nhw ishe gyda fe,” meddai. 

Dywedodd ei bod yn benderfynol o sicrhau fod digon o gynrychiolaeth i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, wedi iddi hi deimlo fel nad oedd digon o gynrychiolaeth ar gael iddi’n bersonol ar rai adegau yn ystod ei bywyd. 

“O’n i’n teimlo falle bod diffyg cynrychiolaeth o ran hunaniaeth fi o ran rhywun sydd ddim yn wyn sy’n siarad Cymraeg," meddai.

“Fi weithiau dal yn cael y teimladau ‘na yn dod i fyny eto ond dyna pam dwi’n meddwl bod e’n bwysig bod fi’n ‘neud y rôl yma a fi’n dangos i blant bod yna gynrychiolaeth allan yna iddyn nhw. 

“A bod nhw’n gallu teimlo fel bod nhw’n gallu ‘neud rôl fi yn y dyfodol os maen nhw ishe.”

Mi fydd Nia Morais yn treulio blwyddyn arall fel Bardd Plant Cymru ac mae'n edrych ymlaen at gwrdd â phlant a phobl ifanc ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn yr wythnos nesa’, yn ogystal â’r rheiny yng Ngŵyl y Gelli ym Mhowys, a’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yn ystod yr haf. 
 

Image
Nia Morais

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.