Newyddion S4C

Cynllun talu am gyrtiau tennis yng Nghaerdydd yn codi gwrychyn

ITV Cymru 17/05/2024
Cwrt tennis Parc Fictoria yng Nghaerdydd

Mae cyrtiau tennis ym Mharc Fictoria, Caerdydd wedi cyflwyno cynllun talu-i-chwarae newydd, sydd wedi gadael rhai chwaraewyr yn teimlo fel eu bod wedi cael eu “gwthio i’r cyrion”.

Mae’r cynllun yn rhan o fuddsoddiad Cymdeithas Tennis Lawnt (LTA), a Thennis Cymru ar gyfer parciau cyhoeddus a chyrtiau tennis.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn adnewyddu cyrtiau tennis mewn chwe pharc yn y brifddinas.

Un o’r rhain yw'r cyrtiau ym Mharc Fictoria, oedd unwaith ar gael yn rhad ac am ddim. 

Mae bellach yn costio £4.50 yr awr i chwaraewyr, sydd wedi codi gwrychyn nifer ohonynt.

Mae’r sesiynau talu-i-chwarae wedi’u cyflwyno a’u gweithredu gan Tennis Cymru.

'Gwthio i'r cyrion'

Mae Spencer Vignes, sydd yn awdur chwaraeon, yn teimlo bod “y diffyg ymgynghori rhwng Tennis Cymru a’r gymuned wedi gadael pobl yn teimlo fel eu bod wedi’u gwthio i’r cyrion a’u halltudio o’r broses penderfyniadau.

“Fe wnaethon nhw hynny dair blynedd yn ôl ac maen nhw wedi ei wneud eto, wnaeth ddangos i mi nad oedden nhw wedi gwrando.”

Yn 2021 roedd giât newydd a chlo trydan wedi cael eu gosod ar y cyrtiau tennis, gan arwain at bryderon ymysg chwaraewyr lleol.

Fe wnaeth e-bost gan Tennis Cymru, cangen Gymreig y Gymdeithas Tennis Lawnt, honni y bydden nhw'n cymryd cyfrifoldeb am y gwaith o gynnal y cyrtiau gan ddechrau codi tâl ar chwaraewyr.

Ond, dywedodd Tennis Cymru a Chyngor Caerdydd nad oedd newidiadau wedi'u cytuno eto.

Gohirio

Cafodd y newidiadau i gynnal y cyrtiau eu gohirio yn ôl y Cynghorydd Stephen Cunnah, sy’n cynrychioli ward Treganna, gan nodi bod Tennis Cymru wedi datgelu manylion y newidiadau heb i’r cyngor gytuno arnyn nhw.

Gyda’r cynllun bellach ar waith ym Mharc Victoria, mae Mr Vignes yn pwysleisio bod “y ffordd maen nhw’n mynd o’i chwmpas hi yn arwydd o breifateiddio parhaus ar gyfleusterau chwaraeon a hamdden heb fawr o ystyriaeth, os o gwbl, nac ymgynghoriad â’r bobl sy’n defnyddio’r cyfleusterau hyn.”

Fe wnaeth Mr Vignes hefyd bwysleisio ei bryderon ynghylch cynwysoldeb y gamp gan ychwanegu y bydd hyn yn effeithio ar bobl yn gweld tennis fel “chwaraeon dosbarth canol ac uwch.”

Dywedodd: “Yn y bôn, mae’n diystyru pobl o’r cam pwysig cyntaf hwnnw o’u hannog nhw i gymryd rhan.

“Y neges maen nhw’n ei anfon yw, ‘os oes gennych chi arian, iawn, ac os na allwch chi ei fforddio, allwch chi ddim chwarae’.”

Mynediad am ddim

Dywedodd Hywel Bleasdale, sydd wedi bod yn defnyddio’r cyrtiau ym Mharc Victoria ers pan yn blentyn: “ Dwi’n meddwl bod mynediad am ddim i chwaraeon yn beth hanfodol bwysig o fewn unrhyw gymuned iachus.

“Yn fy marn i, parciau yw ein tir ni fel pobl nid tir cwmni. Dwi’n teimlo ei fod yn ‘slippery slope’ pan rwyt ti’n dechrau cyfyngu ar reolau pwy, pryd, a sut ry’ch chi’n cael defnyddio’r tir. 

“Dyw £4.50 yr awr ddim yn rhad i bawb. Mae’n rhad i bobl ddosbarth canol a phobl sydd mewn swyddi ac yn meddwl bod hynny werth o. 

Mae Hywel yn teimlo nad yw’r cynllun o dalu i chwarae yn hygyrch i bawb. 

“Unwaith rwyt ti’n rhoi rhwystr i fyny, rwyt ti’n nacáu pobl yn syth. 

“Dwi’n meddwl y dylai egwyddorion cymuned iachus ddim cael eu gweld fel cost. Maen nhw o werth i’r gymuned. 

“Ry’ch chi’n siarad am iechyd cymuned, mae fel gofal iechyd ataliol. Rwyt ti bron yn gallu atal pethau gwael rhag digwydd yn y dyfodol trwy bethau rili syml a rhad fel hyn."

Ymateb y Cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae cyflwyniad y cynllun rheoli ac aelodaeth gychwynnol cost isel yn sicrhau bod yna gynllun hir dymor, cynaliadwy i gynnal y cyrtiau tennis ym Mharc Fictoria a phum parc arall yng Nghaerdydd - lle roedd nifer ohonynt mewn cyflwr gwael neu nad modd chwarae arnyn nhw, ac yn destun fandaleiddio, camddefnydd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol."

"Bydd unrhyw arian sydd wedi i godi gan gyflwyniad y cynllun yn cael ei ddefnyddio gan Tennis Cymru i ail-fuddsoddi yn y cyrtiau. 

“Yma yng Nghaerdydd, mae’r model wedi trawsnewid y cyrtiau ym Mharc yr Heath dros y blynyddoedd diwethaf, o un gydag ychydig iawn o weithgarwch tennis, i mewn i ganolbwynt tennis bywiog gyda dros 900 o chwaraewyr yn mwynhau’r cyrtiau. 

“Bydd calendr o gyfleoedd treial am ddim, diwrnodau agored ac hyfforddi am ddim ar gael ar draws y flwyddyn. Yn ogystal, bydd ddigwyddiadau wythnosol o sesiynau tennis am ddim i bob oedran, safon a phrofiad i chwarae lle bydd cyfarpar ar gael."

Fe wnaeth ITV Cymru Wales gysylltu â Tennis Cymru ond chafwyd dim ymateb.

Llun: Spencer Vignes

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.